Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Swyddfa Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bae Caerdydd

Gweithdy unigryw lle byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddeall yr heriau buddsoddi yn y DU ar gyfer y sector Technoleg Feddygol.

A group of people sitting in a circle and speaking

Fel rhan o raglen MARRS (Cyflymydd Technoleg Feddygol: Cymorth Rheoleiddiol Cyflym) CPI, rydyn ni’n cynnal cyfres o weithdai i ddeall y prif heriau buddsoddi yn y DU; byddant yn gyfle unigryw i unigolion gyfrannu’n uniongyrchol at adroddiad sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth, a all gyfrannu at bolisi yn y dyfodol. Rydym yn falch o gynnal gweithdy Caerdydd yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd.

Bydd dau weithdy ym mhob lleoliad, un lle bydd busnesau bach a chanolig yn cydweithio i gyfleu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth gael buddsoddiad yn y DU a datblygu atebion posibl. Bydd yr ail i fuddsoddwyr yn unig a fydd yn ein helpu i ddeall eu safbwynt nhw a’u hatebion posibl. Gyda’n gilydd, gyda mewnbwn o’r ddwy ochr, gallwn edrych ar atebion a fydd yn symud y nodwydd i bawb.

Bydd cinio ar gael ym mhob sesiwn a bydd hyn yn gyfle gwerthfawr i fuddsoddwyr a busnesau bach a chanolig gysylltu a chydweithio. 

Yr hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl o’r gweithdai: 

  • Trafodaethau bwrdd crwn dan arweiniad arbenigwyr: Trafodaethau sy’n canolbwyntio ar heriau cyllido, a strategaethau buddsoddi.
  • Effaith a gefnogir gan y Llywodraeth: Bydd gwybodaeth gan yr unigolion a fydd yn bresennol yn cyfrannu’n uniongyrchol at adroddiad gan y llywodraeth ar heriau a chyfleoedd Technoleg Feddygol.
  • Cyfleoedd i rwydweithio: Meithrin cysylltiadau ag arweinwyr y diwydiant, busnesau bach a chanolig a llunwyr polisïau dros ginio rhwydweithio.


Gweithdai Busnesau Bach a Chanolig
Drwy drafodaethau wedi’u hwyluso byddwn yn ceisio deall:

  1. Pa fathau o gyllid mae eich cwmni wedi’u derbyn?
  2. Ydych chi wedi wynebu unrhyw rwystrau rhag cael buddsoddiad?
  3. Am beth ydych chi’n chwilio mewn buddsoddwr?
  4. A fydd eich strategaeth ariannu yn newid wrth i’ch cwmni dyfu?
  5. Sut gallech chi gael eich cefnogi’n well i sicrhau buddsoddiad? 


Gweithdai Buddsoddwyr
Drwy drafodaethau wedi’u hwyluso byddwn yn ceisio deall:

  1. Beth sy’n gwneud cwmni Technoleg Iechyd yn ddeniadol i fuddsoddi ynddo?
  2. Pam byddech chi’n buddsoddi neu ddim yn buddsoddi?
  3. Ar ba is-sectorau o Dechnoleg Iechyd ydych chi’n canolbwyntio?
  4. Sut mae eich meini prawf buddsoddi neu lefel eich cyllid yn wahanol ar gyfer Technoleg Iechyd?
  5. Sut gallech chi gael eich cefnogi i fuddsoddi mwy mewn Technoleg Iechyd?


Bydd y rhai sy’n bresennol yn cyfrannu at sbarduno atebion sy’n grymuso busnesau bach a chanolig, yn gwella cyfleoedd buddsoddi, ac yn cynnal cynnyrch arloesol ym maes gofal iechyd. Dyma gyfle i ddylanwadu ar ddyfodol Technoleg Iechyd ar yr un pryd â rhoi sylw i heriau hollbwysig yn y sector.

Diddordeb mewn mynychu?