Trydydd parti
-
Life Sciences Hub Wales, 3 Assembly Square, Cardiff, CF10 4PL

Ymunwch â ni ar 8 Gorffennaf i ddysgu am gyllid Mindset-XR Innovate UK a'i Rhaglen Cymorth Arloesedd, i glywed gan arloeswyr blaenllaw, a darganfod cyfleoedd ariannu sydd ar ddod.

VR headset

Oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed sut y mae modd defnyddio realiti estynedig ym maes iechyd meddwl?

Dewch i gael rhagor o wybodaeth am gyllid Mindset-XR Innovate UK, a Rhaglen Cymorth Arloesi Mindset-XR ddydd Llun 8 Gorffennaf 2024.

Bydd yn gyfle gwych i wneud y canlynol:

  • Clywed gan arloeswyr yn y maes cyffrous a datblygol hwn, a dysgu mwy am pam mae hyn yn bwysig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Cwrdd â rhai o’r enillwyr gwobrau Mindset-XR ac arloeswyr XR
  • Clywed am y cyllid sydd ar y gweill ar gyfer rownd 3 Mindset-XR

 

Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad? 

Unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a thechnoleg ymgolli, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gwmnïau technoleg ymgolli, clinigwyr, ymchwilwyr/academyddion, arloeswyr, sefydliadau rheoleiddio/cyfreithiol, y sector gwirfoddol, pobl greadigol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl, pobl gyda phrofiad uniongyrchol.

Sylwch ein bod ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y DU. Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar Gymru ac yn cael ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Archebwch eich lle yma.