Gallai deallusrwydd artiffisial lywio dyfodol gofal iechyd. Ymunwch â’r Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial ym maes Iechyd, i ddatgelu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig ac i gael mewnwelediadau amhrisiadwy i wireddu newid.
Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i drawsnewid dyfodol iechyd. Bydd yr uwchgynhadledd hon yn cyflwyno mewnwelediad ac astudiaethau achos unigryw gan wneuthurwyr polisïau, clinigwyr, darparwyr gofal iechyd, grwpiau cleifion, sefydliadau fferyllol, darparwyr technoleg feddygol, academyddion, cyrff anllywodraethol, elusennau a buddsoddwyr sy'n gweithio i gyflawni potensial mwyaf deallusrwydd artiffisial ym maes iechyd.
Dysgwch sut i gael y gorau o’r manteision gweithredu deallusrwydd artiffisial a goresgyn ei heriau i gyflawni’r systemau a’r canlyniadau iechyd gorau posibl.