Rydyn ni’n chwilio am Weinyddwr profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol o’r radd flaenaf ar draws ein tîm Partneriaethau; ac felly byddwch yn hen gyfarwydd â gweithio’n rhagweithiol gyda chydweithwyr mewnol a chysylltu â rhanddeiliaid allanol, yn ogystal â helpu gyda chymorth busnes cyffredinol ar draws y tîm ehangach. .

Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Partneriaethau ac yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod y tîm yn cael ei gefnogi a bod cofnodion cywir yn cael eu cadw. Bydd gennych chi lygad craff am fanylion, yn gallu cwrdd ag amserlenni tynn a blaenoriaethu tasgau ar draws llwyth gwaith amrywiol, a byddwch yn aelod gwych o dîm. Byddwch hefyd yn gyfforddus gyda’r holl becynnau MS Office ac yn barod i ddysgu systemau newydd, os oes angen.

Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys:

  • Paratoi agendâu, trefnu cyfarfodydd, cadw nodiadau a chofnodion
  • Trefnu lleoliadau, trefnu teithio a llety
  • Chwilio am ddyfynbrisiau, codi archebion prynu a ffeilio anfonebau am yr hyn bydd y tîm yn ei brynu
  • Cynnal cronfeydd data cywir gan gynnwys logiau gweithredu, cofrestrau risg a phroblemau
  • Casglu data a metrigau i gefnogi adrodd a monitro

Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm i gael rhagor o fanylion am y cyfle hwn.

Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?

  • Ymunwch â ni a bod yn rhan o dîm bach a chyfeillgar
  • Diwylliant gweithio hyblyg a chefnogol - gan gynnwys cynllun oriau hyblyg
  • Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 7% gan y Cyflogwr

Gwnewch gais nawr!

Anfonwch e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda’ch CV diweddaraf a’ch datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) a pham rydych chi’n teimlo mai chi yw’r unigolyn gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn, gan egluro sut rydych chi’n bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon

Rhaid i’ch cais ein cyrraedd ni erbyn 4pm ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 fan bellaf.

Cynhelir y cyfweliadau yn ein swyddfeydd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 13 Tachwedd 2024.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon yn gyntaf, cysylltwch â Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau, yn naomi.joyce@lshubwales.com

 

application/pdf - 231.17 KB
application/vnd.openxmlformats-officedocument.wordprocessingml.document - 40.8 KB