Mae Megan yn gyfreithiwr cymwys yn Uwch Lysoedd Cymru a Lloegr a gwblhaodd astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cymhwyso. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn y tîm contractau o fewn Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, bu Megan yn gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol cenedlaethol a rhyngwladol mewn practis preifat.

Bu i Megan astudio Cyfraith Ryngwladol ym Mhrifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd wrth gwblhau ei gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae Megan yn astudio ar gyfer gradd Meistr yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Nottingham Trent ym maes ymchwil cyfreithiol ac astudiaethau proffesiynol uwch, gyda golwg ar gwblhau PhD yn y gyfraith.

Mae Megan yn cefnogi Prifysgol Caerdydd yn frwd, yn enwedig o ran codi arian ar gyfer ymchwil ac arloesi. Mae hi wedi cwblhau tri Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd. Mae Megan hefyd wedi cael profiad fel ymchwilydd ar ran y Cenhedloedd Unedig, yn yr adran materion economaidd a chymdeithasol.

Mae Megan yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer agweddau cytundebol ar brosiect Cyflymu. Mae Megan yn gweithio’n agos gyda thîm Cyflymu i ddarparu gwaith rheoli prosiectau, hyfforddiant ac arweiniad.

Mae Megan yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau a noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad o nifer o wahanol brosiectau.