Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2020-21, gan dynnu sylw at ei waith a'i gyflawniadau yn ystod y flwyddyn fusnes ddiwethaf.   

Life Sciences Hub Wales logo

Mewn blwyddyn o her na welwyd ei thebyg o'r blaen, mae'r adolygiad yn dangos sut mae'r sefydliad wedi gweithio gyda diwydiant i gefnogi GIG Cymru a gofal cymdeithasol gyda chynhyrchion a gwasanaethau hanfodol drwy'r pandemig wrth iddo ymgymryd â rôl gydgysylltu allweddol. 

Mae'r adolygiad hefyd yn archwilio gwaith parhaus y sefydliad ym meysydd digidol ac AI, meddygaeth fanwl, therapïau datblygiedig a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth. Roedd hyn yn cynnwys: 

  • Cyfrannu'n strategol at raglenni trawsnewid mawr ledled Cymru – cynnull rhanddeiliaid allweddol, dod â mewnwelediad busnes ac arbenigedd a phartneriaethau gyda diwydiant.
  • Gweithredu fel 'drws ffrynt i ddiwydiant' ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd, gwneud cysylltiadau, a rhoi cyngor a chymorth i fusnesau sefydlu presenoldeb yn y wlad.  
  • Dod â chyllid ac adnoddau ychwanegol i Gymru drwy gyfleoedd ariannu newydd, datblygu consortia a chynnig cyngor ac arweiniad i adolygiadau gan gymheiriaid er mwyn sicrhau'r llwyddiant mwyaf posibl.  
  • Mynd ati i adeiladu proffil ac enw da'r sector gwyddorau bywyd gofal iechyd yng Nghymru – a'i gyfraniad i'r sector iechyd a'r economi.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

"Nid oes amheuaeth nad oedd y pandemig yn dangos yn glir yr angen i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol weithio'n agosach o lawer gyda diwydiant, er mwyn nodi'r heriau'n gyflymach a dod o hyd i atebion hyd yn oed yn gyflymach,"    

"Roeddem yn falch o chwarae ein rhan wrth ymateb i'r digwyddiadau hyn drwy ddarparu 'drws ffrynt i ddiwydiant' i ymgysylltu â GIG Cymru a gofal cymdeithasol – a byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn i wneud Cymru yn lle dewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a lles." 

Mae'r adolygiad hefyd yn amlinellu cynllun cyflawni'r sefydliad ar gyfer 2021/22, gan archwilio sut y bydd yn parhau i gyflymu'r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer iechyd, gofal a lles.