Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Bevan yn arddangos atebion ymarferol sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i amseroedd aros mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Bevan, prif felin drafod annibynnol Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn arddangos atebion ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i amseroedd aros mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'n annog eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru i helpu i fynd i'r afael â maint argyfwng amseroedd aros gofal iechyd y genedl.
Mae'r adroddiad, o'r enw "Pam Aros? Adeiladu ar Fentrau Profedig i Leihau Aros yng Nghymru," yn manylu sut mae rhestrau aros wedi cynyddu 73 y cant o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig, gyda dros 800,000 o lwybrau cleifion ar agor ar hyn o bryd. Mae rhagamcanion yn nodi y gallai'r nifer hwn fod yn fwy na 830,000 erbyn Mai 2026, gyda bron i hanner y rheini'n aros mwy na 26 wythnos am driniaeth.
Meddai Dr. Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan:
"Mae'r ffigurau hyn yn peri pryder mawr, maent yn cynrychioli argyfwng sy'n effeithio ar iechyd a lles ein cymunedau, yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yn rhoi pwysau aruthrol ar ein gweithlu iechyd a gofal. Ond yng nghanol yr heriau hyn, mae gobaith mawr fel y gwelir o'r atebion arloesol a ddatblygwyd, a brofwyd ac a dreialwyd gan ein Enghreifftwyr Bevan."
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddetholiad o brosiectau arloesol, o raglen Enghreifftwyr Bevan, sy'n dangos effeithiau diriaethol ar amseroedd aros a chapasiti'r system. Mae'r prosiectau hyn, sy'n cael eu harwain gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol rheng flaen, yn mynd i'r afael â'r argyfwng yn uniongyrchol ac yn gyrru'r newidiadau sydd eu hangen ymlaen mewn amrywiaeth o ffyrdd:
- Optimeiddio prosesau a llif gwaith
- Darparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol
- Blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol
- Defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd
- Ehangu rolau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae enghreifftiau o brosiectau Enghreifftwyr llwyddiannus yn cynnwys:
- Gofal Gweithredol ar y Cyd i'r Prostad (PACT) - Rhyddhau miloedd o apwyntiadau meddygon teulu trwy rymuso dynion â chanser y prostad i reoli eu gofal gartref.
- Cerbydau Ymateb Iechyd Meddwl - Lleihau ymweliadau A&E 71% trwy asesiadau iechyd meddwl cyflym, cymunedol.
- Clinigau Gastroenteroleg dan Arweiniad Deietegydd Cyswllt Cyntaf - Lleihau amseroedd aros o dair blynedd i bedwar mis trwy rymuso deietegwyr i ddarparu asesiadau a rheolaeth gychwynnol.
- Llywio Llwybr Radioleg - Symleiddio'r broses radioleg i leihau oedi a gwella profiad cleifion, yn enwedig ar gyfer cleifion canser.
Meddai Dr. Helen Howson:
"Mae'r prosiectau hyn yn 'no brainers', maent yn dangos, trwy weithio'n gallach, nid yn galetach, y gallwn wneud gwelliannau sylweddol i ofal cleifion ac effeithlonrwydd y system. Petai nhw'n cael eu huwchraddio ledled Cymru, gallen nhw gael effaith drawsnewidiol."
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu ar wersi o lwyddiannau'r gorffennol, fel Cynllun y GIG yn gynnar yn y 2000au ac enghreifftiau rhyngwladol o Ganada, Seland Newydd, Denmarc a Sweden. Mae'n amlygu pwysigrwydd buddsoddiad parhaus, integreiddio gwasanaethau'n well, a llif cleifion wedi'i symleiddio.
Yn seiliedig ar ei ddadansoddiad, mae Comisiwn Bevan yn gwneud pum argymhelliad allweddol:
- Adolygu pob rhestr aros i sicrhau bod triniaethau'n dal yn angenrheidiol ac yn briodol.
- Gweithredu sesiynau Theatr Effaith Uchel (HIT) a chanolfannau llawfeddygol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau.
- Mabwysiadu llwybrau Dilyniant a Gychwynnir gan Gleifion (PIFU) a Gweld ar Symptomau (SOS) i leihau apwyntiadau diangen.
- Uwch-raddio prosiectau Enghreifftwyr Bevan llwyddiannus ledled Cymru.
- Gwella llif y system a chleifion trwy lwybrau symlach a chydlynu gwell rhwng sectorau gofal.
Daw Dr. Helen Howson i'r casgliad:
"Mae'r amser i weithredu nawr, rydym yn annog Llywodraeth Cymru, arweinwyr gofal iechyd, a gweithwyr proffesiynol ledled y wlad i gofleidio'r prosiectau hyn a'r argymhellion, gan gydweithio i fabwysiadu, lledaenu a mewnosod mwy o atebion arloesol. Gyda'n gilydd, gallwn greu system iechyd a gofal fwy effeithlon, teg a chynaliadwy i Gymru."