Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chomisiwn Bevan eto ar gyfer yr ail Academi Lledaeniad a Graddfa, sy’n cael ei chynnal ar-lein ac yn dechrau ar 10 Mawrth 2021.
Bydd 11 o dimau yn mynychu’r academi tri diwrnod – ar ôl cyrraedd y rhestr fer allan o 38 o brosiectau a gyflwynwyd gan 185 o bobl mewn 27 o sefydliadau. Daeth y ceisiadau o bob cwr o Gymru, gan gynnwys byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
Dywedodd Len Richards, y Prif Swyddog Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
“Mae BIP Caerdydd a’r Fro mewn sefyllfa freintiedig iawn i allu gweithio ochr yn ochr â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i gefnogi staff o bob rhan o GIG Cymru gyda’u datblygiadau arloesol a’u syniadau ynghylch dyfodol gofal iechyd. Credaf yn gryf y bydd y syniadau gorau am sut i wella’r gwasanaethau a ddarparwn yn dod o’r rheng flaen, gan y bobl sy’n eu darparu.
Ein cyfrifoldeb ni fel arweinwyr yw sicrhau bod y rhwydweithiau cefnogi priodol ar waith i annog arloesi, a bod staff yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i chwalu ffiniau sefydliadol hen ffasiwn a sicrhau manteision ar draws y system gyfan. Dyma’n union beth mae’r Academi Lledaeniad a Graddfa yn ei wneud ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld cynnydd y garfan hon wrth i ni edrych at ddyfodol ar ôl pandemig Covid-19.”
Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar y ‘Model o Gyflawni’, sef fframwaith profedig i ddatblygu prosiectau arloesol. Mae’r timau sy’n cymryd rhan yn cynnwys prosiectau i ddatblygu llwybr triniaeth ddydd lawfeddygol i leihau derbyniadau brys a gwella profiad cleifion, gwella’r gofal brys ar yr un diwrnod, a darparu cymorth ar gyfer magu plant mewn pandemig.
Darperir yr academi gan The Billions Institute, sy’n creu profiadau dysgu trawsnewidiol i’r rhai sy’n arwain ymdrechion newid ar raddfa fawr yn y sector cymdeithasol. Cynhaliwyd yr Academi Lledaeniad a Graddfa gyntaf ym mis Medi 2019, gan groesawu 58 o gyfranogwyr o fwy na 15 o sefydliadau.
Mynychodd Dr Clea Atkinson, ymgynghorydd gofal lliniarol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yr academi gyntaf ac meddai:
“Mae wedi bod yn anodd i mi roi’r gorau i feddwl mor fach, a dechrau meddwl ar raddfa fwy o lawer. Gallai’r manteision enfawr rydyn ni wedi’u gweld yn ein prosiect bach ni gael eu lledaenu ar draws Cymru gyfan, y DU gyfan, a phwy a ŵyr i ble arall.”
Mae podlediad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ‘Syniadau Iach’, yn siarad ag arweinwyr a chyfranogwyr yr academi gyntaf mewn pennod arbennig: Lledaenu a Graddfa.
Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru meddai:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael cefnogi’r Academi Lledaeniad a Graddfa eto eleni. Mae hi’n bwysicach nag erioed nodi’r gwaith sy’n cael effaith a gwahaniaeth go iawn, a datblygu er budd cleifion a dinasyddion ledled Cymru. Bydd y timau sy’n cymryd rhan yn cael yr adnoddau, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant allweddol i alluogi eu gwaith i wneud mwy byth o wahaniaeth.”