Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi bod Dr Chris Martin, DL, wedi’i ailbenodi fel Cadeirydd ers 01 Gorffennaf 2024.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi bod Dr Chris Martin, DL, wedi’i ailbenodi fel Cadeirydd ers 01 Gorffennaf 2024. Mae Dr Martin, sydd wedi bod yn Gadeirydd ers Awst 2021, yn dod â chyfoeth o brofiad ac arweinyddiaeth i'r rôl, ar ôl bod yn Is-gadeirydd ers 2017.
Mae Dr Martin, fferyllydd nodedig a chyn Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi bod yn allweddol o ran sbarduno arloesi yn y sefydliad. Mae ei ddealltwriaeth ddofn o’r sector gwyddorau bywyd a’i weledigaeth strategol wedi cyfrannu’n sylweddol at genhadaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i feithrin arloesi ym maes iechyd, gofal a lles ledled Cymru.
O dan arweinyddiaeth Dr Martin, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cryfhau ei rôl fel partner hanfodol i GIG Cymru ac fel canolfan ar gyfer cydweithio yn y diwydiant, gan gefnogi mentrau sy’n sbarduno twf economaidd ac yn gwella canlyniadau gofal iechyd ledled y rhanbarth.
Mynegodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, hyder yn arweinyddiaeth barhaus Dr Martin, gan ddweud:
“Mae’n fraint cael Chris wrth y llyw unwaith eto. Bydd ei graffter strategol a’i ymrwymiad diwyro i’n cenhadaeth yn sicrhau bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i ffynnu fel catalydd ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal.”
Rhannodd Dr Chris Martin ei frwdfrydedd dros y rôl, gan ddweud:
“Mae’n anrhydedd parhau i arwain Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar yr adeg dyngedfennol hon. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiannau a gweithio’n agos gyda’n bwrdd a’n partneriaid i wella ymhellach ein heffaith ar iechyd ac economi Cymru.”
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau’n ymroddedig i feithrin partneriaethau strategol rhwng y sectorau diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar sbarduno arloesi trawsnewidiol sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.