Trydydd parti

Mae Amgen wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i drawsnewid dyfodol gofal iechyd. Mae’n ymrwymo i siarter sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd ac arloesi sy'n seiliedig ar werth ledled Cymru. 

Welsh Government, Swansea University, and Life Sciences Hub Wales at the Senedd

Drwy lofnodi'r siarter hon, mae Amgen yn dod yn rhan o gynghrair gynyddol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob punt sy'n cael ei gwario ar iechyd a gofal yn darparu'r gwerth gorau posibl — gan sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, i gymunedau ac i economi Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r partneriaid wedi ymrwymo i symud gofal iechyd o ddarpariaeth sy'n seiliedig ar weithgarwch i fodelau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n seiliedig ar werth ac sy'n rhoi canlyniadau cleifion wrth galon pob penderfyniad. 

Mae ymrwymiad Amgen yn adeiladu ar ei bartneriaethau llwyddiannus ledled Cymru, gan gynnwys mentrau fel QuicDNA, sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno profion genomig biopsi hylif am ganser, ac Iechyd Poblogaeth Clefydau Cardiofasgwlaidd y Genhedlaeth Nesaf, rhaglen arloesol sy'n edrych ar sut gall data a thechnoleg wella'r gwaith o ganfod a rheoli clefydau cardiofasgwlaidd yn gynnar. 

Gyda'i gilydd, bydd y partneriaid yn gweithio i gryfhau'r berthynas rhwng iechyd a'r economi yng Nghymru drwy feithrin arloesedd, cefnogi trawsnewid digidol, a chyflymu'r broses o fabwysiadu technolegau newydd sy'n sicrhau manteision amlwg i gleifion ac i gymunedau. 

Dywedodd Russell Abberley, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol, Amgen UK & Ireland: 

“Mae partneriaeth wrth galon sut mae Amgen yn sbarduno arloesedd pwysig ac rydym yn falch o gael cydweithio ymhellach â'n partneriaid yng Nghymru drwy'r siarter hon. Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gallwn gyfuno ein harbenigeddau i wella iechyd cleifion a chymunedau. Mae'r siarter hon yn adlewyrchu ein gweledigaeth gyffredin o system gofal iechyd sydd nid yn unig yn arloesol ond hefyd yn deg, yn seiliedig ar ddata, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau go iawn i gleifion.”  

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

“Mae uchelgeisiau'r siarter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad a'n penderfyniad i wella iechyd a gofal yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd a ddaw drwy’r cytundeb hwn gydag Amgen, Prifysgol Abertawe, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Llywodraeth Cymru.” 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae'r siarter hon yn garreg filltir bwysig yn nhaith Cymru at system gofal iechyd sy’n wirioneddol arloesol a chynaliadwy. Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym wedi gweld â'n llygaid ein hunain yr effaith drawsnewidiol bosibl pan fydd diwydiant, y byd academaidd a'r llywodraeth yn cydweithio at yr un nod. Mae ymrwymiad Amgen i ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn cyd-fynd yn berffaith â'n cenhadaeth i gyflymu arloesedd sy'n gwella canlyniadau i gleifion ac sy’n cryfhau ein sector gwyddorau bywyd. Drwy'r bartneriaeth hon, gallwn harneisio cryfderau unigryw Cymru mewn data, ymchwil a chydweithio i greu atebion sydd nid yn unig o fudd i'n cymunedau heddiw ond sydd hefyd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gofal iechyd i’r dyfodol.” 

Dywedodd Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe 

“Mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector i ysgogi arloesedd sy'n fuddiol i gymdeithas. Mae'r bartneriaeth hon gydag Amgen, Llywodraeth Cymru, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i hyrwyddo gofal iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth. Drwy ein Hacademi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar werth a gydnabyddir yn rhyngwladol, rydym yn helpu i ddatblygu dyfodol lle mae canlyniadau cleifion wrth wraidd gofal iechyd yng Nghymru.”