Rydyn ni’n falch iawn bod profion beta preifat wedi cael eu cynnal ar Ap newydd GIG Cymru, ac mae profion beta cyhoeddus wedi dechrau cael eu cynnal ar yr Ap erbyn hyn.
Ar ôl i’r ap gael ei gwblhau, bydd cleifion yn gallu ei ddefnyddio i gael gafael ar amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal hanfodol yn uniongyrchol ar eu ffôn clyfar, eu dyfais tabled a’u cyfrifiadur.
Cafodd rhaglen arloesol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) ei datblygu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda phrofion beta preifat yn dechrau ym mis Tachwedd 2022 a oedd yn cynnwys 700 o gleifion mewn 10 meddygfa ledled Cymru. Gyda 75% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn fodlon iawn ac yn rhoi adborth cadarnhaol (gan ddod o hyd i fân wallau hefyd), mae’r ap bellach wedi cael ei ddiweddaru gyda gwell system lywio, ac mae wedi cael ei adeiladu yn yr un feddalwedd ag ap symudol NHS England.
Mae’r ap bellach ar gael yn Gymraeg, ac mae hefyd wedi cael ei ddatblygu i roi mynediad ehangach at wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru.
Mae defnydd presennol yr ap yn cynnwys mynediad at wasanaethau 111 a gwasanaethau organau, sydd ar gael i bob defnyddiwr sy’n llwytho’r ap i lawr. Gall meddygfeydd hefyd alluogi’r nodwedd trefnu apwyntiadau, ailarchebu presgripsiynau rheolaidd, a chrynodeb o gofnod iechyd meddyg teulu ar gyfer cleifion sydd â’r ap ac sydd wedi’u cofrestru yno. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi dechrau gweithio gyda meddygfeydd ledled Cymru i helpu i roi hyn ar waith dros y misoedd nesaf.
Mae’r tîm wrthi’n datblygu’r ap i gynnig gwasanaethau ychwanegol, gyda’r bwriad y bydd yr ap yn cynnig un “drws ffrynt” digidol ar gyfer yr holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn rhoi mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl, gwybodaeth am ofal eilaidd gan gynnwys canlyniadau radioleg a phatholeg, a gwybodaeth o ddyfeisiau hunanfonitro fel monitorau pwysedd gwaed a siwgr yn y gwaed.
Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’n hymdrechion ein hunain i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy cysylltiedig ac effeithlon. Technoleg Ddigidol, Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial yw un o’n prif feysydd blaenoriaeth, lle rydyn ni'n cynorthwyo partneriaid ar draws gwahanol sectorau i sicrhau bod arloesedd ar flaen y gad.
Ydych chi’n awyddus i roi cynnig arno eich hun? Mae’r ap bellach ar gael yn siopau apiau Apple a Google, yn ogystal ag ar wefan Ap GIG Cymru, https://app.nhs.wales/login
I gael rhagor o wybodaeth am Ap GIG Cymru, ewch i https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-yr-ap-gig-cymru-newydd i weld datganiad Cabinet Eluned Morgan.