Wrth i bandemig Covid-19 arwain at gystadleuaeth a galw byd-eang digyffelyb am gyfarpar diogelu personol (PPE), mae arbenigwr cyfarpar diogelu o Sir Ddinbych wedi defnyddio'i gadwyni cyflenwi rhyngwladol i sicrhau bod gan Gymru fynediad at ffynonellau o gyfarpar hanfodol. 

A photo of PPE

Mae Workplace Worksafe, a sefydlwyd yn 2005, yn un o brif gyflenwyr cyfarpar diogelu personol a dillad amddiffynnol yn y gweithle ym Mhrydain. Fel un o'r dosbarthwyr annibynnol mwyaf, mae'r cwmni fel arfer yn gwerthu dros 250,000 o gynnyrch i gwsmeriaid sy'n gweithredu mewn amrywiaeth o sectorau ledled Ewrop.   

Wrth ymateb i alwad gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am gymorth gan y diwydiant i frwydr Cymru yn erbyn y feirws, gwnaeth arbenigwyr cyfarpar diogelu personol yn Workplace Worksafe ddefnyddio'u cysylltiadau â rhwydwaith rhyngwladol o weithgynhyrchwyr cyfarpar diogelu personol a dillad amddiffynnol i sefydlu cyflenwad o gynnyrch, gan gynnwys masgiau, sgrybs a phrofion ffitio.   

Yn sgil argyfwng Covid-19, mae busnesau Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gan GIG Cymru a gwasanaethau rheng flaen gyfarpar diogelu personol a fydd yn diogelu'r rheini sy'n gweithio i achub bywydau ac yn gwasanaethu eu cymunedau. Drwy weithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Workplace Worksafe wedi cyflenwi dros 27,120 o gyfarpar i GIG Cymru hyd yma drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.      

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Fe gawson ni ymateb anhygoel i'n galwad ar y diwydiant gan fusnesau sy'n gweithredu mewn amrywiaeth o sectorau ledled y wlad.  Mae Workplace Worksafe yn enghraifft wych o sut mae Cymru wedi creu partneriaethau sy'n datgloi arbenigedd ac yn hwyluso cydweithio sy'n arwain at gadwyni cyflenwi newydd ar gyfer GIG Cymru. Mae ein gwaith gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi ein galluogi i sicrhau cynhyrchion diogel ac ardystiedig a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu cleifion a'r rhai sy'n gweithio ar reng flaen ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol." 

Mae llwyddiant y tîm yn Workplace Worksafe yn mynd y tu hwnt i'r gallu i brynu cyfarpar diogelu personol. Mae eu harbenigedd a'u profiad ar y cyd â phartneriaid yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi eu galluogi i sicrhau bod yr offer sy'n cael ei brynu'n bodloni'r safonau angenrheidiol gan GIG Cymru.  

Dim ond os yw'r cyfarpar diogelu personol yn ffitio'n iawn ac yn ffurfio sêl ddiogel pan fydd yn cael ei wisgo mae modd iddo amddiffyn unigolion. Am y rheswm yma, roedd Workplace Worksafe hefyd yn gweithio i sicrhau pecynnau Prawf Ffitio sy'n helpu staff GIG Cymru i sicrhau eu bod yn gwisgo'r math cywir o fwgwd sy'n eu diogelu orau.  

Yn ogystal â chynhyrchu a phrynu cyfarpar ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd a rheng flaen Cymru, mae Workplace Worksafe hefyd yn helpu cyflogwyr Cymru i gael gafael ar y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnyn nhw i gadw eu timau a'u cwsmeriaid yn ddiogel. 

Meddai Rhian Parry, rheolwr gyfarwyddwr Workplace Worksafe:

"Fel busnes o Gymru, rydyn ni'n angerddol am symud y broses o gynhyrchu cyfarpar diogelu personol a nwyddau hanfodol eraill yn ôl i Gymru. Mae ein tîm yn Rhuthun wedi bod yn gweithio oriau estynedig dros saith diwrnod yr wythnos i sicrhau cyflenwadau, ac rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu helpu gyda phrynu adnoddau angenrheidiol ar gyfer timau gofal iechyd ledled y wlad. Mae gweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ein galluogi i sicrhau bod yr offer - y mae ein timau wedi gweithio'n ddiflino i'w canfod a'u creu - yn mynd yn uniongyrchol i'r lle mae GIG Cymru eu hangen fwyaf. Nid yw'r gwaith yma drosodd - rydyn ni'n parhau i sicrhau llwythi rheolaidd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer GIG Cymru, gyda chyflenwadau newydd yn cyrraedd bob mis." 

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae busnesau Cymru yn parhau i chwarae rhan hollbwysig o ran ein helpu i ddarparu'r cyfarpar diogelu personol hanfodol sydd ei angen ar ein gweithwyr gofal iechyd. Mae cyflenwyr fel Workplace Worksafe wedi ateb yr her a achoswyd gan y pandemig yma ac maen nhw'n allweddol o ran sicrhau bod gennym gyflenwad o eitemau pwysig yn y tymor hir. "Hoffwn ddiolch iddyn nhw, a'r Hwb Gwyddorau Bywyd, am bopeth maen nhw'n ei wneud wrth i ni barhau i ddelio â'r coronafeirws." 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol i safleoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol GIG Cymru. 

Dylai unrhyw fusnesau sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn coronafeirws wneud hynny drwy borthol arloesi ar-lein Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.