Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag M-SParc ar gyfer Digwyddiad Monitro o Bell unigryw ar 16 Mawrth!

A vector graphic of remote monitoring technology

Mae’r cynnydd diweddar mewn cyfleoedd monitro o bell ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi newid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaethau. Mae cleifion bellach yn cael profiad gwahanol o ofal i gleifion drwy gael cymorth yn eu cartrefi eu hunain.

Rydyn ni eisoes yn gweld gostyngiad mewn apwyntiadau clinig a derbyniadau i ysbytai lle mae arferion monitro o bell eisoes yn cael eu rhoi ar waith. Mae manteision amgylcheddol hefyd yn deillio o leihau ôl troed carbon drwy deithio llai.

Mae hyn yn ei gwneud yn amser hollbwysig i ddysgu mwy am effaith gynyddol technolegau monitro o bell lle rydych chi.

 

Dywedodd Delyth James, Arweinydd Rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru:

“Mae’r defnydd o fonitro o bell ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

“Gyda mwy a mwy o brosiectau monitro o bell yn cael eu cynnal ledled Cymru, rydyn ni wedi ymuno ag M-SParc i gynnal y digwyddiad arbennig hwn ar gyfer ein cydweithwyr ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd. Rwy’n edrych ymlaen at glywed ein cydweithwyr yn trafod eu llwyddiannau, eu heriau a’u rhwystrau gyda’r gobaith y gall pawb sy’n bresennol ddatblygu’r gwersi hynny yn eu prosiectau cyffrous eu hunain.”

 

Os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu academaidd ac eisiau dysgu mwy am fonitro o bell, bydd y digwyddiad ar 16 Mawrth yn darparu agenda amrywiol. Byddwch yn cael cyfle i wneud y pethau canlynol...

  • clywed am brosiectau monitro llwyddiannus o bell ym maes iechyd a gofal cymdeithasol,
  • dysgu am waith TEC Cymru (Teleiechyd) ar raddfa genedlaethol trwy eu platfform monitro o bell,
  • darganfod mwy am y cynnyrch monitro o bell sydd ar y farchnad ar hyn o bryd, a hefyd
  • cwrdd â phobl eraill yn eich sector.

 

Dywedodd Charlie Jones, Swyddog Marchnata a Digwyddiadau M-SParc:

“Yn M-SParc rydym wrth galon arloesi ac wrth ein bodd cael gweithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ddigwyddiadau gwych fel hon.

“Mae’r cydweithio cyffrous hwn wedi caniatáu i’r Gogledd a’r De ddod at ei gilydd i rannu eu gwybodaeth a dim ond trwy’r dechnoleg sydd gennym ni nawr y mae hyn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gyd i’r digwyddiad, fe ddylen ni fod yn eich gweld chi dros y wê yn y de,  neu yn M-SParc yn y Gogledd.”

Fel digwyddiad hybrid wyneb yn wyneb, bydd modd i chi fod yn bresennol yng Ngogledd neu Dde Cymru. Mae llefydd yn brin, felly cofrestrwch heddiw