Fe wnaeth tua 300 o gynrychiolwyr o'r gwasanaethau iechyd, gofal a diwydiant yn dod at ei gilydd ar gyfer ail gynhadledd Iechyd a Gofal Digidol Cymru 2018, 'Cyflymu Newid Digidol.'
Cafwyd y digwyddiad ei drefnu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, ac roedd yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bresennol i arddangos yr ecosystem iechyd digidol a sut mae'r rhaglen unigryw yn cysylltu ac yn cynnull partneriaid, gan helpu i ddileu rhwystrau i gweithredu arloesedd digidol ar draws y sectorau iechyd a gofal.
Dywedodd Helen Northmore, Rheolwr Rhaglen ar gyfer EIDC:
"Rhoddodd y gynhadledd gyfle gwych i mi gyflwyno Gwaith yr ecosystem, gan ddod â phartneriaid newydd a phresennol at ei gilydd i rannu syniadau, cyfleoedd ac atebion.
Mae partneriaid ym myd iechyd, gofal a diwydiant yn teimlo'r her barhaus o ran maint a chyflymder. Roeddwn wrth fy modd i allu ddangos sut mae'r ecosystem yn chwarae rhan unigryw o ran cyrraedd pob sector, gan gysylltu syniadau sy'n gweithio a nodi cyfleoedd I gynyddu cyrhaeddiad ac effaith arloesedd digidol."
Mae EIDC yn cynnal ei raglan flynyddol ei hun o ddigwyddiadau sy'n dod ag arloesedd digidol ysbrydoledig ymlaen i bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae cofrestru nawr ar gyfer digwyddiad y Gaeaf yr EIDC, a gynhelir ddyd Mercher 5 Rhagfyr yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy'n canolbwyntio ar sut y gall atebion sy'n seiliedig ar ddata wella siwrneiau cleifion a a sbarduno effeithlonrwydd.