Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydyn ni am i’ch barn chi helpu i ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu Polisi Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. 

Life Sciences Policy Survey

Mae gan y Strategaeth Arloesi i Gymru, a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2023, uchelgais glir i gynyddu buddsoddiad a gweithgarwch ar gyfer arloesi i sbarduno effaith yn economi Cymru, yn enwedig y sector Gwyddorau Bywyd.  Rydyn ni am gefnogi’r amodau cywir ar gyfer diwydiant, y byd academaidd a’r system iechyd a gofal.  

Un o gamau allweddol y Cynllun Cyflawni Arloesedd fydd llunio Polisi Gwyddorau Bywyd, sy’n cynnwys camau gweithredu clir i ddatblygu’r sector yn ogystal â chefnogi cenadaethau iechyd a lles, yr economi, yr hinsawdd, byd natur ac addysg.  

Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ddeall yr heriau, y cyfleoedd a’r blaenoriaethau ar draws y sector Gwyddorau Bywyd yn well, yn ogystal â chamau gweithredu posib i oresgyn heriau.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynghori Gweinidogion ar y camau nesaf ar gyfer datblygu polisi yn y maes hwn.  

Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a dylai gymryd dim ond ychydig funudau i’w lenwi. Rydych yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol a bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu’n gwbl gyfrinachol. Dim ond ar gyfer astudiaeth ddilynol bosib y bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch yn cael ei defnyddio, os byddwch yn cytuno i ni gysylltu â chi eto. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei dileu’n ddiogel 6 mis ar ôl i’r ymchwil hon ddod i ben. 

Bydd eich atebion i gyd yn ddienw, ac ni fyddwch yn cael eich adnabod mewn unrhyw ganlyniadau nac adroddiadau ar yr ymchwil hon. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â gareth.healey@lshubwales.com yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Yn ogystal â’r arolwg hwn, rydyn ni hefyd yn cynnal nifer o weithdai ar-lein yn ystod mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Bydd manylion y gweithdai a sut i gofrestru ar gael cyn bo hir.  

Cyfle i ddweud eich dweud!

Byddem yn ddiolchgar o gael eich ymateb erbyn 31 Hydref 2023. Bydd hyn yn helpu i lywio trafodaethau yn y gweithdai, fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r ymateb gorau posib, bydd yr arolwg yn parhau i fod yn fyw tan 17 Tachwedd 2023.