Trydydd parti

Bydd Versius Clinical Insights CMR Surgical yn casglu data o driniaethau llawfeddygol i ddarparu gwerthusiad manwl o berfformiad llawfeddyg. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliadau gofal iechyd cyntaf yn y byd i gael mynediad at yr adnodd arloesol hwn. 

Surgeon wearing a VR headset during surgery

Mae'r adnodd yn cyfuno data telemetreg presennol, data clinigol a fideos llawfeddygol mewn un lle, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i berfformiad llawfeddyg - gan eu helpu i fireinio technegau. Gall ysbytai hefyd fonitro arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau clinigol i ddarparu darlun cyffredinol manwl ar gyfer meysydd i’w gwella. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o Raglen Genedlaethol arloesol Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg. Mae hon yn fenter traws-sector sy’n rhoi mynediad i Fyrddau Iechyd ledled Cymru at lawdriniaethau â chymorth roboteg ar gyfer cleifion canser. Mae’r dechnoleg uwch yn golygu y gall clinigwyr gyflawni llawdriniaeth sy’n ymyrryd cyn lleied â phosibl i drin canserau’r colon a’r rhefr, rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol, wrolegol a gynaecolegol.  

Dywedodd Mr James Ansell, Llawfeddyg Cyffredinol ac Ymgynghorydd y Colon a'r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd:  

"Fel llawfeddygon, rydym bob amser am gael y gorau i'n cleifion, a dim ond drwy ddysgu o brofiad clinigol blaenorol y gallwn wella eu canlyniadau clinigol. Mae llawdriniaeth â chymorth roboteg yn cynnig cyfle i gael llawer mwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithredu. Gyda Versius, mae gennym bellach yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnom ar flaenau ein bysedd, a thrwy ei chyfuno gallwn gael dealltwriaeth glinigol go iawn, a fydd yn helpu i wella ein canlyniadau clinigol a chleifion." 

Dywedodd Jonathan Morgan, Rheolwr Rhaglen Cymru Gyfan Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg: 

“Mae llawer o ddadleuon dros symud tuag at lawdriniaeth mynediad cyfyngedig â chymorth roboteg, ond rydyn ni’n gwybod y bydd y gwir werth yn dod o’r data sy’n cael ei gasglu o weithrediadau. Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â CMR i lansio Versius Clinical Insights yma yng Nghymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos gwerth llawdriniaeth sydd wedi’i galluogi’n ddigidol i gleifion”. 

Ewch i’n Tudalen Prosiect i ddarganfod mwy am Raglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg.