Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Dewch i ddweud eich dweud a helpu i lywio’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi! Mae’n gallu bod yn gymhleth mynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o wasanaethau y mae sefydliadau academaidd yn eu cynnig i gwmnïau technoleg iechyd. Rydyn ni’n deall hyn. 

Question mark

Dyna pam ein bod ni’n cwmpasu’r gwaith o ddatblygu rhaglen newydd gyffrous a allai gynnig un pwynt mynediad i gwmnïau at adnoddau academaidd o ansawdd uchel ym mhrifysgolion Cymru fel rhan o fodel ffioedd am wasanaethau. 

Fel rhan o’n gwaith datblygu, hoffem i fusnesau ar draws y sector gwyddorau bywyd - o Gymru a gweddill y DU - lenwi holiadur ar-lein a chymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn.  

Bydd deall y rhwystrau a’r pwyntiau problemus sy’n eich wynebu yn ein galluogi i greu gwasanaeth wedi’i deilwra i’ch anghenion chi a helpu i sbarduno’r gwaith o ddatblygu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. 

Ni ddylai gymryd mwy na 30 munud i lenwi’r holiadur, ac ni ddylai’r cyfweliad bara mwy na 45 munud. Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost i gareth.healey@lshubwales.com a byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r camau nesaf.