Bydd buddsoddiad sylweddol o £2.52 miliwn yn cyflymu'r defnydd o dechnoleg biopsi hylif arloesol sy'n dadansoddi DNA canser o sampl gwaed, gan gefnogi penderfyniadau triniaeth cyflymach a mwy personol.
Bydd y cyllid, gan gynnwys £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £1.3 miliwn gan Swyddfa Gwyddorau Bywyd y DU, yn cefnogi cam nesaf rhaglen QuicDNA, a elwir yn QuicDNA Max. Yn ogystal â hyn, mae'r rhaglen biopsi hylif newydd wedi denu rhoddion grant gan bedwar cwmni ffarmacogenomig.
Mae QuicDNA, a oedd yn canolbwyntio i ddechrau ar roi diagnosis o ganser yr ysgyfaint, yn defnyddio techneg o'r enw profion DNA tiwmor sy’n cylchredeg (ctDNA). Pan fydd celloedd canser yn tyfu, maent yn rhyddhau darnau bach o DNA i'r llif gwaed. Trwy ddadansoddi'r darnau hyn o sampl gwaed, mae meddygon yn nodi ei gyfansoddiad genetig ac yn dewis y driniaeth fwyaf effeithiol. Mae'r dull hwn yn llawer llai mewnwthiol na biopsiau meinwe traddodiadol. Mae data cynnar yn dangos triniaeth gyflymach i gleifion na gyda'r llwybr diagnostig biopsi meinwe, gan dynnu sylw at botensial trawsnewidiol y dull hwn.
Bydd QuicDNA Max nawr yn ehangu profion ctDNA i fathau eraill o ganser ac yn ei gyflwyno ar draws holl fyrddau iechyd Cymru. Bydd hefyd yn cefnogi recriwtio staff arbenigol ac yn ymgorffori profion genomig yng ngofal rheolaidd y GIG.
Cefnogwyd yr astudiaeth QuicDNA gychwynnol, dan arweiniad Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, gan ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Cymru, Canolfan Ymchwil Treialon Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a thimau Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel noddwyr, Gwasanaeth Canser Felindre, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, partner diwydiant Illumina, nifer o gwmnïau fferyllol, y Moondance Cancer Initiative a'r eiriolwr cleifion Craig Maxwell.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae rhaglen QuicDNA Max yn enghraifft wych o sut y gellir cynyddu ymchwil a arweinir yma yng Nghymru i fynd i'r afael â chanserau eraill, gan arwain at ddiagnosis cynharach ac o bosibl triniaethau cyflymach a mwy personol. Rwy'n falch bod ymchwil a wneir yma yng Nghymru yn denu cyllid ychwanegol er budd pawb."
Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance: "Mae diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer trin canser, a gall wneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau cleifion.
"Gallai'r gwaith addawol hwn ar brofion gwaed helpu i deilwra triniaethau cleifion canser yn well iddynt, yn gynt, a heb yr angen am biopsiau mewnwthiol. Mae'n enghraifft wych o sut rydyn ni'n cefnogi ymchwil feddygol allai wneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion y GIG yng Nghymru."
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Rhaglen QuicDNA: "Mae'r buddsoddiad hwn yn newid rhagorol i ofal canser yng Nghymru. Bydd yn caniatáu inni gynyddu'r defnydd o brofion ctDNA y tu hwnt i ganser yr ysgyfaint, recriwtio'r gweithlu arbenigol sydd ei angen arnom, ac ymgorffori technolegau genomig arloesol ar draws yr holl fwrdd iechyd. Drwy wneud hyn, gallwn roi diagnosis o ganser yn gynt, personoli triniaethau, a rhoi mynediad i gleifion ledled Cymru at y gorau mewn gofal arloesol."
Mae'r rhaglen yn cefnogi Cenhadaeth Iechyd Llywodraeth y DU i leihau'r nifer o fywydau sy’n cael eu colli i ganser a'i Chenhadaeth Twf i roi hwb i gyfleoedd economaidd mewn diagnosteg a genomeg, fel y nodir yng Nghynllun y Sector Gwyddorau Bywyd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.