Mae’r rhaglen ar y cyd â Rhwydwaith Canser Cymru, gyda’r Bwrdd Iechyd yn gweld ei gleifion cyntaf ar gyfer sganiau o 27 Medi ymlaen.
Mae ymchwil yn dangos bod canserau’r ysgyfaint a ganfyddir drwy archwiliadau iechyd yr ysgyfaint yn llawer mwy tebygol o fod ar gam cynnar. O’i ganfod yn gynnar, gall triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint fod yn symlach ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Mae ymchwil yn dangos bod sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint yn gallu lleihau’r risg o farw o ganser yr ysgyfaint o tua 25%.
Gan weithio gyda meddygfeydd penodol yng Ngogledd Rhondda, bydd y rhaglen beilot yn ceisio cynnig sgan sgrinio’r ysgyfaint i tua 500 o gleifion. Os byddant yn addas, bydd cleifion yn cael eu gwahodd i gael sgan sgrinio ysgyfaint CT dos isel. Bydd yr uned sganio symudol wedi’i lleoli y tu allan i Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia, Rhondda Cynon Taf, i sicrhau mynediad hawdd i bob claf sy’n mynychu.
Dywedodd Sinan Eccles, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Anadlol, sy’n arwain y cynllun peilot ar ran BIPCTM:
“Gall canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn bod unrhyw symptomau, wneud gwahaniaeth enfawr. Gellir gwella canser yr ysgyfaint pan fydd yn cael ei ganfod yn gynnar. Mae’n gyffrous bod y rhaglen beilot hon yn cael ei chynnal yng Nghwm Taf Morgannwg; bydd yn ein helpu i lunio’r cynlluniau ar gyfer rhaglen sgrinio ehangach ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn y dyfodol.”
Dywedodd Chris Coslett, Rheolwr Rhaglen Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint, Gweithrediaeth y GIG (Rhwydwaith Canser Cymru):
“Mae’n wych cael gweithio ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd, yn ogystal â phartneriaid yn y diwydiant a’r trydydd sector, i ddarparu’r cynllun peilot cyffrous hwn, a fydd yn arwain at waddol barhaol i bobl Cymru am flynyddoedd i ddod.”
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun peilot iechyd yr ysgyfaint, ewch i https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/peilot-gwiriad-iechyd-yr-ysgyfaint/