Ar 28 – 29 Medi, aethom i arddangos yn Expo EBME yn Coventry. Gwych oedd gweld yr amrywiaeth enfawr o Dechnoleg Feddygol arloesol dros y ddau ddiwrnod, i’n hatgoffa o sector gwyddorau bywyd cryf y DU.
Y peth mwyaf cyffrous oedd y cyfle i gynrychioli Cymru yn y digwyddiad. Fe wnaethom ddyrchafu tirwedd arloesi deinamig ein gwlad a dangos yr effaith amlwg a gawn. Drwy rwydweithio â’r diwydiant, cawsom lawer o gysylltiadau newydd, pob un â’r potensial i ddarparu technolegau newydd i’r rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Expo EBME yw’r arddangosfa a chynhadledd fwyaf yn y DU ar gyfer cyfarpar meddygol annibynnol ac sy’n canolbwyntio ar dechnoleg gofal iechyd. Mae’n canolbwyntio ar gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau gwelliannau cynaliadwy drwy ddefnyddio technoleg. Yno, roedd amrywiaeth o ddiwydiannau’n arddangos nifer o dechnolegau arloesol, gweithwyr proffesiynol o'r GIG, ac academyddion.
Aethom i wrando ar nifer o sgyrsiau dros y ddau ddiwrnod, a gweld y datblygiadau i wella profiadau a chanlyniadau meddygol cleifion yn y DU. Un ohonynt oedd cyflwyniad gan Ahmed Fayed (Uwch Beiriannydd Meddygol a Thechnegydd Dialysis yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Newcastle) ar effaith gwella dialysis yn y system gofal iechyd. Ar hyn o bryd, rhoddir dialysis i 5% o boblogaeth cleifion y GIG, gyda 2% o'r gyllideb ar gyfer triniaethau dialysis. Fodd bynnag, mae rhai triniaethau dialysis yn symud i’r cartref ar gyfer cleifion yn Lloegr. Mae hyn yn grymuso cleifion i ddeall a rheoli eu triniaeth a’u hiechyd eu hunain a hefyd, drwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi a’u cymunedau, gall dialysis yn y cartref arbed 35% o gostau’r GIG.
Cafwyd cyflwyniad allweddol arall gan Mark Hitchman (Rheolwr Gyfarwyddwr, Canon Medical Systems UK), yn amlinellu cymhlethdodau deallusrwydd artiffisial mewn diagnosteg, a sut gall hynny wella ansawdd delweddau sganiau CT, symleiddio llif gwaith staff, a helpu gyda dehongliadau diagnostig. O’r profiad a gafwyd yn ddiweddar o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd, mae’n amlwg bod angen i ni fod yn ofalus. Er mai dyddiau cynnar yw hi o ran y datblygiadau, mae uwchraddio meddalwedd yn gallu arwain at lai o gywirdeb diagnostig, ac mae ecosystemau bregus peiriannau yn golygu bod angen anrhydeddu crebwyll pobl yn anad dim arall.
Roedd hi’n adeg i feddwl na all dim gymryd lle arbenigedd, empathi a chrebwyll dynol staff ar ein rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, gall technolegau newydd fod yn hanfodol i gefnogi eu gwaith, gan helpu i wella’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu drwy symleiddio’r llif gwaith. Wrth wraidd hyn, mae’r gwelliant posibl mewn canlyniadau i staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Drwy rymuso cleifion i weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar yr un pryd â chymryd perchnogaeth dros eu hiechyd eu hunain, roedd yn ein hatgoffa ein bod i gyd yn cydweithio i wella iechyd a chyfoeth y wlad. Roedd Expo EBME hefyd yn tynnu sylw at angerdd unigolion sydd ar flaen y gad o ran arloesi gyda Thechnoleg Feddygol. Y tu ôl i bob arloesiad, mae unigolyn sydd ag awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth a gadael etifeddiaeth gadarnhaol.
Rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfle i arddangos a chwrdd â chynifer o unigolion newydd sy’n frwd dros wella profiadau a chanlyniadau cleifion, i bawb yn y wlad.
Os oes gennych chi syniad arloesol a allai gefnogi ein staff rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled y wlad, cysylltwch â ni. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ledled y wlad.