Mae'r tîm arloesi yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi lansio sgwrsfot deallusrwydd artiffisial i gefnogi cleifion, eu hanwyliaid, ac aelodau'r cyhoedd. 

Velindre Cancer Centre

RITA yw cynorthwyydd rhithwir deallusrwydd artiffisial cyntaf y byd a alluogwyd i gael ei hyfforddi'n benodol mewn oncoleg. Mae dros 100 o glinigwyr, staff a chleifion wedi bod yn rhan o'r broses ddatblygu. 

Bellach yn fyw ar wefan Canolfan Ganser Felindre, mae'r sgwrsfot deallusrwydd artiffisial wedi cael ei hyfforddi i ddeall ac ymateb i amrywiaeth o gwestiynau cyffredin ac i gyfeirio defnyddwyr at wybodaeth ddefnyddiol. Mae RITA yn defnyddio prosesu iaith naturiol i ddysgu o ryngweithiadau blaenorol a darparu atebion deallus. 

Gyda Diwrnod Cansery Byd Dywedodd ar 4 Chwefror, Ross McLeish, Rheolwr Prosiect Arweiniol Arloesi: 

"Rydyn ni'n falch iawn o sicrhau bod RITA ar gael i gleifion canser a'u teuluoedd. Rydym wedi datblygu'r offeryn hwn i'w helpu i fod yn y sefyllfa orau ac i'w grymuso i gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol ac o ansawdd uchel unrhyw bryd ac unrhyw le. Roedd pandemig COVID-19 yn caniatáu i ni ailffocysu ar senarios pan allai pobl fod yn ymweld â'r ganolfan ganser am y tro cyntaf, ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi tua 190 o bynciau. Mae'r rhain yn cwmpasu nifer o gwestiynau cyffredin, ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau cymorth, cyfleusterau, ac adnoddau eraill." 

Ychwanegodd Peter Barrett-Lee, Cyfarwyddwr Meddygol Canolfan Canser Felindre: 

"Rydyn ni'n gwybod o brofiad, pan fydd claf yn derbyn diagnosis canser, bod mynediad i wybodaeth ac amsugno gwybodaeth yn gallu bod yn her ac weithiau'n llethol. Pwrpas RITA yw galluogi cleifion a'u teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol ar eu telerau eu hunain ac yn eu hamser eu hunain. Mae RITA wedi cael profion helaeth cyn i ni ei rhyddhau i gynulleidfa ehangach ac rwy'n hyderus y bydd o fudd mawr i les emosiynol, seicolegol a chorfforol ei defnyddwyr." 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Roeddem yn rhan o gefnogi datblygiad cynnar RITA a’r broses o’i roi ar waith drwy’r rhaglen Cyflymu, felly mae’n wych gweld sut mae’r adnodd hwn yn esblygu’n rhywbeth y gellir ei ddefnyddio i gefnogi staff a chleifion canser a’u hanwyliaid. Gan ei fod wedi'i lansio erbyn hyn, rydym yn edrych ymlaen at weld ei effaith ar gyfeirio gwybodaeth a rheoli adnoddau – gan greu canlyniadau sy’n bwysig i bobl yng Nghymru.” 

Mae sawl budd hefyd i wasanaethau Canolfan Ganser Felindre, yn cynnwys: 

  • Cymorth i gleifion a'u teuluoedd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. 

  • Mynediad a chyfeirio at wasanaethau ac adnoddau cymorth a ddarperir gan Felindre a phartneriaid elusennol. 

  • Ffynhonnell ganolog o wybodaeth, cysylltiadau, a chyfryngau defnyddiol i gyd mewn un lle. 

  • Llai o straen ar amser staff clinigol a chlerigol yn delio ag ymholiadau arferol. 

Bydd cynlluniau i ddatblygu RITA yn y dyfodol agos yn cynnwys fideos wedi'u recordio ymlaen llaw gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn golygu y gall cleifion sydd newydd gael diagnosis gael eu cyflwyno’n rhithwir i'r clinigwyr a fydd yn darparu eu gofal cyn eu hapwyntiad cyntaf. 

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y sgwrsfot deallusrwydd artiffisial  gan dderbynnydd Canolfan Ganser Felindre ei hun, Rita, a weithiodd yn y dderbynfa am 19 mlynedd tan ymddeol ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl bod y llinell gyfathrebu gyntaf ar gyfer 1,200 o alwadau dyddiol yn y brif dderbynfa, roedd rôl hanfodol Rita a’i hymdrechion ysbrydoledig yn cynnwys cefnogi cleifion a'u teuluoedd pan oedden nhw fwyaf bregus. 

I gael mynediad at RITA, ewch i wefan Canolfan Ganser Felindre a chliciwch ar yr eicon neges las sy'n ymddangos ar waelod y sgrin ar yr ochr dde. 

Cefnogodd amrywiaeth eang o bartneriaid ddatblygiad RITA, gan gynnwys partneriaid yn y byd academaidd, diwydiant, a'r trydydd sector. Ymhlith y cydweithwyr roedd Pfizer Oncology, IBM, Meridian IT, Concentric, Cymorth Canser Macmillan, Gofal Canser Tenovus, Accelerate, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio? I ddysgu mwy am gyfleoedd posib i gydweithio, cysylltwch â'r prosiect RITA drwy e-bost: Velindre.Innovation@wales.nhs.uk neu ffonio: 02920 615 888.