Trydydd parti

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio â phartneriaid i gefnogi’r gwaith o gyflwyno menter Arloesedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (HSCIW).

A woman looking at a laptop

Mae'r fenter newydd wedi ei ddylunio i’w gwneud hi’n haws i'r GIG gael gafael ar y canllawiau, yr adnoddau a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i sbarduno arloesedd. 

Wrth wraidd y fenter hon mae Fframwaith Seilwaith Arloesedd, sef fframwaith a gafodd ei datblygu fel rhan o Cymru’n Arloesi: Strategaeth Arloesi Cymru 2023 Llywodraeth Cymru. Bydd y dull strwythuredig hwn yn darparu canllawiau clir ar sut i ddatblygu, profi a thyfu syniadau newydd. 

Mae HSCIW yn casglu ynghyd adnoddau o bob rhan o’r ecosystem arloesi, ac yn gweithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Comisiwn Bevan, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Grŵp Arweinwyr Arloesi GIG Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau fod arloeswyr yn gallu cael gafael ar gyngor arbenigol a chefnogaeth strategol. 

Bydd gwefan newydd HSCIW yn darparu cronfa ganolog o adnoddau arloesi, a fydd helpu timau ar bob cam o’u taith. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.hsciw.wales

Rhagor o wybodaeth

Mae’r grŵp Arweinwyr Arloesi yn cynnal gweithdy ar-lein am 1pm ddydd Iau 27 Mawrth, 2025 er mwyn arddangos holl adnoddau’r HSCIW. 

Archebwch eich lle ar y digwyddiad ar-lein: Tocynnau i Weminar ar wefan Arloesedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, dydd Iau 27 Mawrth 2025 am 13:00 | Eventbrite