Trydydd parti

Wrth i Gymru sefyll ar groesffordd hollbwysig ar gyfer dyfodol ei system iechyd a gofal, bydd Comisiwn Bevan yn cynnal Uwchgynhadledd y Gwanwyn Syr Mansel Aylward.

People chatting at a conference

Thema'r Uwchgynhadledd yw "Y Trobwynt: Dod Ynghyd ar gyfer Dyfodol Iechyd a Gofal yng Nghymru", ac mae'n addo bod yn fwy na siop siarad. Nod Comisiwn Bevan yw creu catalydd am newid go iawn er mwyn paratoi am y degawd nesaf, gan gynnwys cael cymorth arweinwyr, gweithwyr proffesiynol a rhai sy'n gallu creu newid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth, diwydiant, byd academaidd a'r trydydd sector.

"Rydym wedi cyrraedd pwynt lle nad yw newidiadau fesul cam yn mynd i weithio" meddai Dr Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan. "Mae'r heriau sy'n wynebu ein system iechyd a gofal yn anferthol, ac mae angen gweledigaeth a rennir arnom ac ymrwymiad i weithredu ar y cyd yn awr os ydym yn mynd i adeiladu system sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Bydd yr Uwchgynhadledd yn adeiladu ar waith blaenorol Comisiwn Bevan, gan gynnwys gwybodaeth o'r Gynhadledd "Trobwynt: Ble nesaf i iechyd a gofal" a gynhaliwyd yn 2023. Bydd y trafodaethau'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â materion allweddol:

  • Poblogaeth sy'n heneiddio - gydag un o bob pedwar yng Nghymru dros 65 oed erbyn 2045, bydd nifer y bobl 90 oed ac yn hŷn bron yn dyblu, a bydd dod o hyd i ffyrdd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy i'n dinasyddion hŷn yn hollbwysig.
  • Clefydau Cronig a Chymhleth - gan fynd i'r afael â'r ffaith, ym mhen ugain mlynedd, y bydd un o bob pum person yn byw gyda chyflyrau cronig ac y bydd 65% o'r rhai dros 65 oed yn debygol o fod yn byw gydag anhwylderau cymhleth lluosog.
  • Rhestrau Aros - archwilio ymagweddau arloesol at fynd i'r afael ag ôl-groniad sylweddol sydd ar ei uchaf erioed yn ein systemau iechyd a gofal.
  • Anghydraddoldebau Iechyd - mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol mewn canlyniadau iechyd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig.

Mae'r uwchgynhadledd yn cynnwys siaradwyr o fri a fydd yn rhannu eu harbenigedd a'u safbwyntiau:

  • Bydd Jeremy Miles, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhoi safbwynt gwleidyddol ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
  • Bydd yr Athro Don Berwick KBE, arbenigwr rhyngwladol blaenllaw ar wella gofal iechyd, yn cynnig her ryngwladol (drwy ffrwd fyw) gan annog Cymru i feddwl yn wahanol am y dyfodol.
  • Bydd Comisiynwyr Bevan, gan gynnwys Nygaire Bevan, yr Athrawon Kamila Hawthorne, George Crooks a'r Fonesig Sue Bailey, yn archwilio modelau arloesol gofal a'r cyfleoedd ar gyfer integreiddio, gan ddefnyddio profiadau o feysydd eraill.
  • Bydd arweinwyr o sectorau gwahanol cymdeithas, gan gynnwys Hugh Russell, Prif Swyddog Gweithredol Plant yng Nghymru, yr Athro Kelechi Nnoaham, Pennaeth Datblygu Rhaglenni Iechyd yn Shell International, Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a fydd yn rhoi eu safbwyntiau ar yr heriau a'r cyfleoedd.
  • Arweinwyr o'n sefydliadau allweddol, gan gynnwys Jonathan Morgan, Cadeirydd Conffederasiwn y GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Arweinydd Gofal Cymdeithasol CLILC, Dr Lindsay Cordery Bruce, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Russell Greenslade, Cyfarwyddwr Cymru, CBI a'r Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais Cymru.

Bydd sesiynau rhyngweithiol yn annog cyfranogwyr i herio'r status quo, trafod a nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer trawsnewid ac ymrwymo i gamau gweithredu cadarn. Bydd yr Uwchgynhadledd hefyd yn canolbwyntio ar "Troi gweledigaeth yn weithredu - nodi sut bydd y trawsnewid hwn yn cael ei gyflawni drwy gydweithio â'r holl bartneriaid".

Mae Comisiwn Bevan yn disgwyl i'r uwchgynhadledd osod y sylfeini i adeiladu "consensws Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal yn y dyfodol" - drwy ymagwedd gydweithredol, bydd set glir o ymrwymiadau arweinyddiaeth ac atebolrwydd a rennir yn cael eu nodi i helpu i sbarduno newid ystyrlon.

"Mae hon yn alwad i bawb, fel unigolion ac ar y cyd, ar draws sectorau, i ymuno gyda'n gilydd", ychwanegodd Dr Helen Howson. "Rhaid i ni addo ein hegni a'n doniau cyfunol i wneud Cymru'n genedl iachach, gryfach a mwy dyfeisgar, gan ddangos y ffordd i eraill unwaith eto, lle mae iechyd a gofal yn bileri'r llwyddiant a rennir gennym".

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch l.a.blake@swansea.ac.uk