Bydd Innovate UK, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £3.7 miliwn mewn prosiectau arloesol sydd â’r nod o ddatblygu datrysiadau realiti estynedig therapiwtig digidol ar gyfer gofal iechyd meddwl.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Innovate UK, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £3.7 miliwn mewn prosiectau arloesol sydd â’r nod o ddatblygu datrysiadau realiti estynedig therapiwtig digidol ar gyfer gofal iechyd meddwl. Mae’r gystadleuaeth gyllido hon yn gwahodd sefydliadau i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau sydd â’r potensial i integreiddio i ecosystem gofal iechyd meddwl ffurfiol y DU.
Manylion Allweddol y Gystadleuaeth:
- Math o Gyllid: Grant
- Maint y Prosiect: Rhaid i gyfanswm y costau cymwys amrywio rhwng £200,000 a £300,000.
- Hyd y Prosiect: Dylai prosiectau bara rhwng 12 a 18 mis
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11:00 AM ar 15 Ionawr 2025 (amser y DU).
Dylai’r cynigion gynnwys dyluniad manwl a nodweddion eich datrysiad realiti estynedig, yn ogystal â sut bydd yn cael ei roi ar waith.
Dyddiadau Pwysig:
- 29 Hydref 2024: Digwyddiad briffio ar-lein.
- 4 Tachwedd 2024: Y gystadleuaeth yn agor.
- 15 Ionawr 2025: Y gystadleuaeth yn cau
- 18 Chwefror 2025: Gwahoddiad i gyfweliad.
- 10 Mawrth 2025: Y panel cyfweld yn dechrau.
Am beth rydyn ni’n chwilio:
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn gystadleuol, rydyn ni’n annog partïon sydd â diddordeb i gysylltu â’n tîm cyllid yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Gall ein tîm eich helpu i lunio ceisiadau am gyllid ar y cyd, ac i’ch cysylltu â phartneriaid posibl i gryfhau eich cynnig. P'un a ydych chi’n sefydliad academaidd, yn elusen, yn sefydliad sector cyhoeddus neu'n fusnes (cyn belled â bod gennych bartner prosiect o'r uchod), rydyn ni am eich helpu i harneisio'r cyfle cyffrous hwn.
Cysylltwch â ni!
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn i gael cyllid ac os hoffech chi gydweithio ar gais, cysylltwch â hello@lshubwales.com. Gyda’n gilydd, gallwn gyfrannu at wella gofal iechyd meddwl drwy ddatrysiadau digidol arloesol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, ewch i: Trosolwg o’r Gystadleuaeth - Realiti estynedig Mindset: Therapiwteg Ddigidol ar gyfer iechyd meddwl.
Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i gael effaith ystyrlon mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled y DU!