Rhaglen i4i NIHR a’r Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS) yn cyhoeddi galwad cyllido newydd i gefnogi arloesedd wrth ganfod a rhoi diagnosis cynnar o ganser, triniaethau wedi’u targedu a dulliau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Y Genhadaeth Canser: Bydd Galwad Gwerthuso a Dilysu Clinigol o Ddiagnosis Canser Cynnar yn cefnogi gwaith dilysu a gwerthuso technolegau arloesol yn glinigol i gynyddu cyfran y canserau a ganfyddir yn gynharach, a/neu dargedu anghydraddoldebau iechyd ar draws camau diagnosis canser.
Mae’n alwad un cam am brosiectau sy’n para hyd at 36 mis. Nid oes uchafswm ar gyfer cyllid.
Mae’r alwad yn cefnogi’r strategaeth a nodir yng Ngweledigaeth y DU ar gyfer Gwyddorau Bywyd, i wneud y DU yn ganolbwynt profi blaenllaw ar gyfer arloesi ym maes canser. Gwneir hyn drwy gyflymu’r gwaith o ddatblygu a masnacheiddio cenhedlaeth newydd o ddiagnosteg a therapiwteg canser.
Bydd y cyllid yn cefnogi diagnosis cynharach i gleifion a datblygu therapïau mwy penodol.
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Croesewir ceisiadau gan:
- Gwmnïau bach/canolig eu maint
- Y GIG a darparwyr y trydydd sector
- Sefydliadau elusennol
- Cyrff llywodraeth leol
- Prifysgolion a sefydliadau ymchwil
Dyddiadau allweddol
Mae’r ceisiadau’n agor am 1pm ar 24 Hydref 2023, a byddant yn cau am 1pm ar 12 Rhagfyr 2023.
Mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal ar 6 Hydref, gyda rhagor o fanylion ar Eventbrite.
I ddysgu mwy am y cyfle ariannu hwn, ewch i wefan NIHR.