Yn ein ffilm ddiweddaraf i arddangos yr arloesiadau sy’n bosibl o ganlyniad i’r rhaglen Cyflymu, rydym yn edrych ar gydweithrediad rhwng arloeswyr o Gymru, Copner Biotech, a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu a allai chwyldroi meithrin celloedd drwy gynlluniau sgaffaldiau 3D wedi’u modelu â chyfrifiadur.

Copner Biotech 3D cell culture

Mae Copner Biotech wedi creu dull unigryw o ddatblygu sgaffaldiau 3D ar gyfer meithrin celloedd, y broses o dyfu celloedd y tu allan i’r corff. Mae’r fenter newydd yn defnyddio modelu cyfrifiadurol i sicrhau ocsigenu a llif optimwm drwy’r strwythur sgaffaldiau cyfan. Gobeithir y bydd dilysu a masnacheiddio’r dechnoleg Gymreig arloesol hon yn y farchnad feddygol yn arwain at ddatblygu gwell cyffuriau a thriniaethau i gleifion ym mhob cwr o’r byd.    

Er bod modd meithrin celloedd drwy ddefnyddio celloedd mamaliaid neu gelloedd planhigion, mae Copner Biotech yn gweithio â chelloedd dynol yn bennaf.

Fel arfer, mae meithrin celloedd yn cael ei wneud mewn amgylchedd 2D, ond gall hyn olygu cyfyngiadau. Ar y llaw arall, mae’r gallu i ddefnyddio proses feithrin celloedd 3D yn cynnig llawer o fanteision, gan ei bod yn annog celloedd i ddefnyddio morffoleg mwy ffisiolegol berthnasol o’i gymharu â meithrin celloedd 2D. Mae celloedd sy’n cael eu tyfu gan ddefnyddio sgaffaldiau 3D hefyd yn dangos gwell ymatebion i gyffuriau a gwelliannau cyffredinol mewn ymchwil wrth ddefnyddio celloedd yn y labordy. 

O ganlyniad, mae’r platfform meithrin celloedd 3D newydd hwn yn cynnig potensial aruthrol ar gyfer ymchwil i fathau amrywiol o gelloedd, gan gynnwys: celloedd canser, celloedd cyhyrau’r galon, ffibroblastau a chelloedd yr afu/iau. Mae’r arbenigwyr yn credu bod y defnydd y gellid ei wneud o’r cynnyrch hwn yn wirioneddol ddi-ben-draw, a’r gwir amdani yw bod ymchwilwyr yn darganfod cyfleoedd newydd sy’n cael eu darparu gan y cynlluniau sgaffaldiau datblygedig hyn o hyd. 

Er bod Copner Biotech yn gallu cynhyrchu sgaffaldiau 3D ar gyfer meithrin celloedd, nid oes gan y fenter newydd fynediad uniongyrchol at y cyfleusterau sydd eu hangen er mwyn profi eu cynlluniau mewn labordy i weld a wnaiff y celloedd dyfu arnynt mewn modd priodol.

Mae Cyflymu yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig a Mentrau yng Nghymru fanteisio ar arbenigedd academaidd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid er mwyn gwireddu eu syniadau.

Mae cefnogaeth y rhaglen Cyflymu wedi hwyluso cydweithrediad rhwng Copner Biotech a’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd sy’n galluogi’r ymchwil a’r gwaith profi dilysrwydd hanfodol a all arwain at fasnacheiddio.

Jordan Copner, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Copner Biotech:

“Mae cefnogaeth y rhaglen Cyflymu wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig i gwmni a sefydlwyd yn ystod pandemig byd-eang.

Wrth gwrs, roedd arian yn brin iawn, ac mae cael partner mewn lleoliad biolegol sydd â chymaint o wybodaeth arbenigol am feithrin celloedd wedi bod yn werthfawr iawn.”

Mae’r rhaglen Cyflymu wedi helpu Copner Biotech i ddilysu ei sgaffaldiau mewn lleoliad biolegol. Mae’r tîm yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynnal nifer o arbrofion celloedd, gan gynnwys microsgopeg electronau sganio (SEM) a phrofi celloedd (cellular assays). Mae’r delweddau sy’n cael eu darparu o ganlyniad i gyfarpar SEM datblygedig y Ganolfan yn sicrhau bod tîm Copner yn gallu gwneud archwiliad cywir o’r datblygiadau y tu mewn i’r celloedd sydd wedi’u tyfu â’u sgaffaldiau 3D.

Dr Aled Bryant, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu:

“Mae gwahanol fodelau 3D i dyfu celloedd ar y farchnad, ond elfen arloesol y cydweithrediad hwn yw bod y feddalwedd bwrpasol a ddefnyddiwyd gan Copner Biotech i gynhyrchu’r sgaffaldiau hyn yn galluogi graddiannau ocsigen maetholion i gynyddu twf celloedd.

Drwy ddatblygu gwell modelau ar gyfer profion labordy gallwn ddatblygu gwell cyffuriau a gwell modelau i ddeall gwahanol gyflyrau clefydau, ac yn y pen draw i ddarparu gwell triniaethau i gleifion.”

Wrth i arbenigwyr y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd rannu canfyddiadau eu gwerthusiad, gall Copner Biotech edrych ar ffyrdd o addasu dyluniad y sgaffaldiau 3D a’i ddatblygu ymhellach er mwyn gwella perfformiad cynlluniau sgaffaldiau. O ganlyniad, mae’r datblygwyr yn cael mynediad yn awr at ddata cynhwysfawr i’w galluogi i symud ymlaen i fasnacheiddio.

Mae’r rhaglen Cyflymu wedi’i hymestyn yn awr tan fis Rhagfyr 2022. Os hoffech ddarganfod mwy ynglŷn â sut y gallai’r rhaglen gefnogi eich syniad da neu eich arloesiad chi, cysylltwch â ni heddiw drwy hello@lshubwales.com