Mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lawnsio 'Syniadau Iach', cyfres podlediadau newydd heddiw (1 Mai 2019).
Bydd y podlediad yn clywed wrth arloeswyr, arweinwyr a dylanwadwyr allweddol sy'n dangos ymrwymiad i trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy roi atebion arloesol ar waith.
Bydd 'Syniadau Iach' yn cynnwys cyfweliadau â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac arbenigwr byd-enwog ar anghydraddoldebau iechyd y byd, Michael Marmot, yn ogystal â thrafodaethau panel ar y defnydd o ddata i wella profiad cleifion o ofal, archwilio gwasanaethau cymdeithasol rhagnodi ac ymweliad â busnes yng Nghymru sy'n cefnogi darparu gofal iechyd.
Mae'r pynciau dan sylw yn adlewyrchu Gwaith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o ran sbarduno arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a nodi heriau a chyfleoedd o ran iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n cynnal nifer o'r penodau: "Bydd y podlediad newydd hwn yn ein galluogi i rannu'r trafodaethau yr ydymyn eu cael fel uwch arweinwyr ac arloeswyr, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n gyfle gwych i sbarduno meddwl a mynd i'r afael ag mabwysiadu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru."
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr: "Mae meddwl iach yn anelu at arddangos arloesedd i ysbrydoli eraill a chyfrannu at y sgwrs gan alluogi iddo ddigwydd ar raddfa a chyflymder. Gwahoddwn gydweithwyr sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, y diwydiant gwyddorau bywyd, academia a'r trydydd sector i danysgrifio heddiw."
I thanysgrifio I podlediad 'Syniadau Iach', cliciwch yma.
Mae'r trafodaethau ar y pynciau hyn yn cael eu datblygu ymhellach ar 'Healthy Thinking', sef fersiwn Saesneg y podlediad. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.