Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda MediWales i gyflwyno’r Gwobrau Arloesi eleni. Daeth y digwyddiad nodedig hwn ag arweinwyr arloesi ar draws y meysydd iechyd, gofal a diwydiant yng Nghymru at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau eithriadol.
Roedd y noson yn gyfle i ddathlu wyneb yn wyneb yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ar 2 Rhagfyr. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r gymuned arloesi ym maes gofal iechyd yng Nghymru, sydd wedi parhau i ddangos ei gallu i addasu ac arloesi yn wyneb newid ac ansicrwydd parhaus.
Cafodd y gwobrau, a gyflwynwyd ar y cyd gan Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, eu rhannu ar draws 11 categori. Roedd y rhain yn cynnwys gofal iechyd a diwydiant, gan ddenu detholiad amrywiol o ymgeiswyr i wneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd a lles economaidd yng Nghymru. Mae hyn yn tynnu sylw at y dirwedd arloesi ffyniannus ledled Cymru, sydd wedi’i chefnogi gan gydweithio cryf rhwng gofal iechyd a diwydiant.
Enillwyr Gwobrau’r Diwydiant
- Arloesi: Dyfarnwyd i Creo Medical am ei ddyfeisiau llawfeddygol endosgopig arloesol sy’n creu archoll mor fach â phosibl.
- Cwmni newydd: IQ Endoscopes a enillodd y categori hwn am ddatblygu endosgopau hyblyg untro sy’n effeithiol yn glinigol; maen nhw'n helpu i leihau croes-halogiad ac yn mynd i’r afael â’r aneffeithlonrwydd sy'n bodoli yn y dechnoleg amldro bresennol.
- Allforio: Dyfarnwyd i CellPath sy’n cynhyrchu’r cyflenwad byd-eang o gynnyrch amrywiol i’r farchnad patholeg gellog; mae wedi gweld twf sylweddol o ran allforion.
- Partneriaeth â'r GIG: Enillodd Alpha Laboratories y wobr hon am ei bartneriaeth â’r tîm Biocemeg Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd wedi llwyddo i gyflwyno Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol meintiol (prawf FIT) i helpu i ganfod cleifion â chlefyd y colon a'r rhefr y mae angen eu hatgyfeirio ar frys.
- Cyflawniad Eithriadol: BiVicTrix enillodd y wobr hon, sef cwmni sy’n datblygu triniaethau therapiwtig sy’n targedu mathau penodol o ganser. Mae hyn yn golygu bod modd rhoi dos uwch a defnyddio dulliau mwy ymosodol o gael gwared â chanser heb y sgil effeithiau sy’n gysylltiedig â’r math yma o driniaeth fel arfer.
- Ymateb i Covid: Dyfarnwyd i British Rototherm am ei allu i addasu ei weithrediadau gweithgynhyrchu i gynhyrchu amddiffynyddion wyneb i’r GIG er mwyn cefnogi’r ymateb i Covid-19.
- Gwobr y Beirniad Diwydiant: Enillodd Virustastic Shield y wobr hon am ei orchuddion wyneb untro sy'n destun patent. Mae’r rhain wedi cael eu treialu’n genedlaethol gan y GIG er mwyn ymchwilio i arbedion ariannol ac amgylcheddol.
Enillwyr Gwobr y GIG
- GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant: Dyfarnwyd i Gwelliant Cwm Taf Morgannwg am ei bartneriaeth gyda Baxter Healthcare i greu strategaeth ar gyfer rhoi hylifau mewnwythiennol yn fwy diogel.
- Effaith Ddigidol: Enillodd Fferyllfa Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y categori hwn am ei brosiect yn treialu technoleg sy’n nodi anafiadau acíwt i'r arennau mewn cleifion sy'n cael eu derbyn, ac mae hynny'n golygu bod modd gwneud diagnosis cyflym a lleihau niwed.
- Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid: Dyfarnwyd i Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a Chanolfan Ganser Felindre am eu gwaith fel safle peilot yn rhoi’r prawf ffarmacogenetig cyntaf i gael ei gomisiynu gan y GIG ar waith ar gyfer cleifion sy’n cael y cyffur cemotherapi fluropyrimidine.
- Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant: Dyfarnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Sefydliad Tritech sy’n gweithio gyda Bond Digital Health am ddatblygu ap ffôn symudol digidol, sef COPD Pal, sy’n galluogi cleifion i reoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda MediWales i ddathlu cyflawniadau rhagorol y dirwedd arloesi ym maes gofal iechyd ffyniannus yng Nghymru drwy’r seremoni wobrwyo eleni. Roedd yn braf cael dod at ein gilydd i gydnabod y gwaith caled mae cynifer o gwmnïau a sefydliadau arloesol yn ei wneud er mwyn creu Cymru sy’n fwy ffyniannus ac iach.”
Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales:
“Mae Gwobrau Arloesi eleni yn cael eu cynnal ar adeg pan fo technoleg iechyd ac arloesi ym maes gwyddorau bywyd yn bwysicach nag erioed. Mae’r arloesi hwn yn dibynnu ar gydweithrediad agos rhwng partneriaid ym maes ymchwil, gweithgynhyrchu a chlinigol ar draws y sector.
O’r herwydd, mae ein partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i gyflwyno’r gwobrau wedi rhoi hwb aruthrol i’n helpu i sicrhau’r cyfranogiad ehangaf posibl ledled Cymru. Rydyn ni wedi gweld nifer enfawr o brosiectau ardderchog ac roedd hi’n bleser cael rhannu’r llwyfan â Chris ar y noson i ddathlu’r llwyddiannau hyn.”
Dysgwch ragor a dewch i gysylltiad!
Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, lles a’r economi. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i wneud i hyn ddigwydd.
P’un ai ydych chi’n fusnes bach, yn gwmni rhyngwladol ar raddfa fawr neu’n ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol, rydym ni yma i helpu drwy ein hamrywiaeth eang o wasanaethau cymorth. Dysgwch sut gallwn ni helpu i gyflymu eich arloesedd.