Dychwelodd Hac Iechyd Cymru ar gyfer digwyddiad ar-lein yr wythnos diwethaf, y tro hwn, canolbwyntiodd y digwyddiad ar yr heriau y mae GIG Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn sgil y coronafeirws.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae Hac Iechyd Cymru yn ffordd o ysgogi arloesedd ac annog cydweithio rhwng GIG Cymru, diwydiant, a'r byd academaidd.
Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ar-lein am y tro cyntaf, yn annog cydweithwyr o bob rhan o Gymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gyflwyno'r heriau allweddol y maent yn eu hwynebu yn eu hadran, sefydliad neu broffesiwn ehangach.
Gwahoddir arbenigwyr ac academyddion o'r diwydiant i helpu i weithio ar atebion i'r heriau hynny, mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chreadigol. Ar ôl gosod y problemau cychwynnol i'w hacio, treuliodd timau chwe diwrnod yn gweithio ar atebion newydd ac arloesol.
Denodd rhan un o'r digwyddiad, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, dros 100 o fynychwyr a gwelwyd heriau gan 17 o gydweithwyr ym maes iechyd a gofal. Roedd yr heriau a amlygwyd yn canolbwyntio ar ystod o faterion sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod pandemig Covid-19 yng Nghymru, mewn perthynas â phynciau'n cynnwys deiet, PPE, cyfathrebu, therapi corfforol, triniaeth canser a hyfforddi staff.
Ar ôl wythnos o gydweithio, wedi'i atalnodi gyda'r cyfle i gwrdd â hwyluswyr y digwyddiad i ddatrys unrhyw rwystrau, fe wnaeth y timau ailymgynnull neithiwr a chafodd prosiectau eu gosod mewn steil 'Dragons Den' i banel o feirniaid.
Roedd y beirniaid y tro hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o'r partneriaid digwyddiadau; M-SParc, Comisiwn Bevan, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Awyr Las a Llywodraeth Cymru.
Meddai Chris Martin, Is-Gadeirydd Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'r prif farnwr yr Hac Covid-19:
"Rwyf wrth fy modd cael bod yn rhan o'r Hac Iechyd Cymru ar-lein gyntaf, sydd wedi'i roi at ei gilydd i helpu i fynd i'r afael â'r pandemig Covid-19. Mae'r heriau a gyflwynir gan gyfranogwyr yn amlygu, yn fwy nag erioed, gwerth iechyd, diwydiant, academia, ac eraill yn cydweithio ar ddatrysiadau arloesol er mwyn gwellhad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a thu hwnt."
Derbyniodd y tîm buddugol £8,000, a roddwyd gan Awyr Las a Santander, am eu masgiau wyneb arloesol sy'n cynnwys meicroffon a siaradwr Bluetooth bach a ddefnyddir i gyfathrebu â chleifion. Dyfarnwyd £2,500 i ddau dîm, un yn datblygu masgiau wyneb clir er mwyn ganiatáu i gleifion weld wynebau clinigwyr, a'r ail yn cynnig rhith-ganolbwynt canolog ar gyfer aelodau bregus y gymuned. Bydd tri thîm arall yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y partneriaid i ddatblygu eu syniadau.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, gwesteiwr y digwyddiad a barnwr:
"Mae Cymru wedi dangos yn gyson fod ganddi'r gallu i addasu ac arloesi yn ystod Covid 19 ac mae'r Hac yn dyst i hyn. Sefydlwyd y digwyddiad mewn tair wythnos, ac roedd yn cynnwys 100 o gyfranogwyr a 17 o heriau y byddai'r sector gwyddorau bywyd yn mynd i'r afael â hwy."
Os hoffech wybod mwy am y Hac Iechyd Cymru, gwyliwch y fideo byr hwn gydag enillydd blaenorol:
Aros yn gyfoes!
Peidiwch â cholli allan ar ddigwyddiadau yn y dyfodol! Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a chyhoeddiadau gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan gynnwys ein digwyddiadau diwethaf.