Ar 22 a 23 Mai 2019, bu tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn arddangos yn y Gyngres Iechyd a Gofal Digidol yn y King’s Fund yn Llundain. Mae'r digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol o’r GIG a’r maes gofal cymdeithasol ynghyd i drafod sut gall data a thechnoleg wella iechyd a lles cleifion, ac ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau.

Kings Fund Event May 2019

Roeddem ni ymysg ugain o arddangoswyr yn y digwyddiad a oedd wedi denu dros 400 o bobl. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i dîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru godi proffil arloesedd ym maes gofal iechyd digidol yng Nghymru ar lwyfan i’r DU gyfan. Roeddem ni’n gallu dangos y prosiectau a’r rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau sydd wedi cael eu datblygu drwy'r Ecosystem, a meithrin perthnasoedd â sefydliadau ledled y DU. Cawsom ni hyd yn oed ymwelwyr o Fyrddau Iechyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a oedd yn awyddus i ddod i wybod am ein gwaith.

Rhidian H tweet

Dywedodd Helen, Rheolwr Cyflawni'r Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru:

“Yr hyn a ofynnwyd amlaf i ni dros y ddau ddiwrnod oedd, ‘Dydw i ddim yng Nghymru, pam mae angen i mi wybod am yr Ecosystem?’. Roeddwn i’n awyddus ein bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn oherwydd mae’n cysylltu pobl o bob rhan o’r DU sydd â diddordeb mewn gofal iechyd digidol. Rydym ni am ddeall a rhannu nid dim ond yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ond ar draws y DU a thu hwnt hefyd – dysgu gwersi, rhannu profiadau a’r arferion gorau. Hefyd rydym ni am ddangos yr arloesedd ym maes gofal iechyd digidol yng Nghymru, a’r cynnydd sy’n cael ei wneud yma ar draws y maes iechyd a gofal, i gynulleidfa ehangach.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau'r Ecosystem Iechyd Digidol? Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, cofiwch gofrestru i gael copi o’n cylchlythyr.