Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi PainChek, yr adnodd asesu poen ar sail deallusrwydd artiffisial cyntaf yn y byd, yn y broses o gael cyllid gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent drwy ei Raglen Gofal gyda Chymorth Technoleg. 

PainChek

 Bydd y cyllid yn cefnogi cynllun peilot 12 mis mewn lleoliadau gofal fel cartrefi preswyl, nyrsio a gofal lliniarol, ledled Gwent. Gall cartrefi gofal sy’n darparu gofal dementia, lliniarol, cymhleth ac anableddau dysgu wneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru ac mae’n gatalydd ar gyfer arloesi a chydweithio rhwng diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, gyda’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl, teuluoedd a busnesau ledled y wlad. 

Mae Tandeep Gill o PainChek yn egluro mai nod y cynllun peilot  yw casglu gwerthusiad 12 mis o ddefnydd ac effeithiau’r ddyfais feddygol sy’n seiliedig ar ap: “O’n trafodaethau gyda chartrefi gofal, mae’n gwbl glir eu bod yn rhoi blaenoriaeth uchel i reoli poen, fodd bynnag, mae’r offer a ddefnyddir ar hyn o bryd yn is na’r safon. 

Mae defnyddio PainChek mewn amrywiaeth o gartrefi gofal preswyl a nyrsio ar draws Gwent yn golygu y byddwn yn gallu eu cefnogi i wella’r modd y caiff poen ei reoli ymysg eu preswylwyr. Bydd hyn yn arwain at fanteision ar unwaith, gan gynnwys cynnydd yn nifer a chywirdeb yr asesiadau a gynhelir adeg y gofal. Gall hyn arwain at benderfyniadau gwell gan dimau amlddisgyblaethol sy’n arwain at leihau rhagnodi meddyginiaethau gwrthseicotig, cefnogi gofynion gofal un-i-un a derbyniadau i ysbytai, a chyfrannu at welliannau i strategaethau deietegol a maeth.

Mae’r cytundeb i ariannu’r rhaglen yn newyddion gwych i’r sector gofal lleol a rhanbarthol, yn ogystal ag yn gydnabyddiaeth fawr o’r rôl sylweddol y gall PainChek ei chwarae o ran rheoli poen yn effeithiol mewn nifer o leoliadau gofal a nyrsio. Rydyn ni’n gweld y rhaglen hon fel y cam cyntaf tuag at gyflwyno PainChek ledled Cymru, mae’n ychwanegu.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol sy’n cefnogi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda nhw.

Mae Aimee Twinberrow yn Arweinydd Prosiect yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac mae’n canolbwyntio ar heneiddio’n iachach a defnyddio elfennau Deallusrwydd Artiffisial, digidol a roboteg i gefnogi arloesedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. O ran rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn y rhaglen a sut y gallai helpu i wella ansawdd gofal, mae'n egluro:

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â PainChek i helpu nyrsys a staff gofal i wneud penderfyniadau am feddyginiaeth ar gyfer poen, gyda’r prosiect hwn yn darparu gwerthusiad cychwynnol i gefnogi ei rôl ehangach a’i fabwysiadu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gall technoleg fel hyn helpu i reoli lefelau poen yn well ac felly chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella ansawdd bywyd a chanlyniadau cyffredinol i bobl.

Ar gyfartaledd, mae gan 70% o breswylwyr cartrefi preswyl a chartrefi gofal fath o nam gwybyddol fel dementia, gyda 50% o’r rhain ar gyfartaledd yn dioddef poen cronig neu ddifrifol ar unrhyw adeg benodol. 

Mae hon yn broblem nad yw’n cael digon o sylw ar hyn o bryd, ac eto mae nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu ac yn debygol o ddyblu mewn 20 mlynedd,” meddai Tandeep. “Mae nifer fawr o fanteision i reoli poen yn dda ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond ar hyn o bryd mae’r sector yn dibynnu ar adnoddau hanesyddol. Mae’r rhain yn drafferthus i’w defnyddio, yn enwedig gyda phobl nad ydynt yn gallu cyfleu eu hanghenion, ac mae asesiadau poen yn oddrychol, a gallant fod yn anghywir ac yn anghyson. 

PainChek a’i ddata, canlyniadau, adroddiadau a gwybodaeth sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial, yw’r allwedd i ganfod a mesur yn gywir ‘baich poen’ er mwyn sicrhau gwell ansawdd bywyd i drigolion. 

I gael gafael ar drwyddedau PainChek cysylltwch â: aimee.twinberrow@lshubwales.com a/neu tandeep.gill@painchek.com

I gael gwybod mwy am PainChek ewch i: https://painchek.com/uk/