Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cawsom amser gwych yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol ar 25 Ebrill a drefnwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru! Talodd y digwyddiad deyrnged i’r gwaith ysbrydoledig sy’n cael ei wneud ar draws y sector drwy gydnabod ymroddiad a dylanwad grwpiau, timau a sefydliadau yng Nghymru.

Dathlu’r sector yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2023

Roedd pum gwobr ar gael i’w hennill yn y seremoni eleni, sy’n dangos faint o wahanol ffyrdd y gall pobl a sefydliadau wneud gwahaniaeth i fywydau ledled Cymru. Fe wnaethom ni gefnogi’r wobr ‘Cefnogi Gofalwyr Di-dâl’, sy’n tynnu sylw at gyfraniadau hanfodol timau a grwpiau o weithwyr sy’n helpu gofalwyr di-dâl. 

Daeth amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a sefydliadau gofal cymdeithasol ynghyd ar gyfer y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, gan gynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, cartrefi gofal a darparwyr gofal iechyd.  

Yr enillwyr 

Creu dyfodol disglair i blant a theuluoedd 

Gwasanaeth Gwyliau Byr Oakland, Cyngor Dinas Casnewydd 

Gofalu am les y gweithlu a’i wella 

Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd 

Cefnogi gofalwyr di-dâl 

Teuluoedd yn Gyntaf – Gofalwyr Ifanc, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent  

Gwobr arweinyddiaeth effeithiol 

Polly Duncan 

Gwobr Gofalwn Cymru 

Christel Hay 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a phawb a gyrhaeddodd y rhestr fer! Mae cefnogi Gofal Cymdeithasol Cymru gyda’r Gwobrau hyn yn bwysig iawn i ni fel sefydliad. Rydyn ni’n falch iawn bod y digwyddiad wedi helpu i ddangos llwyddiannau’r sector a sut y gall helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.” 

 

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:  

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’n holl noddwyr am eu cefnogaeth i Wobrau 2023. Mae eu cefnogaeth yn golygu ein bod ni’n gallu dathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar draws y sector.  

“Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr a phawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae’r gwobrau wedi dangos unwaith eto eleni faint o enghreifftiau gwych o ofal a chymorth rhagorol sydd ar gael yng Nghymru, a’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol y mae gweithwyr gofal yn ei wneud i fywydau cynifer o bobl. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cynifer o bobl ymroddedig a gweithgar yn darparu gofal a chymorth i’n pobl fwyaf agored i niwed.” 

Rydyn ni’n falch o weithio gyda phartneriaid ar draws gofal cymdeithasol i helpu i wthio arloesedd i’r rheng flaen, ac i gydweithio er budd pobl, sefydliadau a staff. Os hoffech chi gael cymorth , cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i hello@lshubwales.com