Rydym wedi lansio arolwg newydd i gasglu safbwyntiau am ein sefydliad a’r sector gwyddorau bywyd. Gallwch rannu eich barn gyda ni nes bydd yr arolwg yn dod i ben ar 5 Mawrth 2021.  

Wooden blocks representing people each with a speech bubble

Mae’r dirwedd gwyddorau bywyd yn datblygu’n barhaus wrth i ddiwydiant, y byd academaidd ac iechyd a gofal cymdeithasol geisio hybu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol. I gefnogi’r nod hwn, rydym eisiau deall canfyddiadau rhanddeiliaid sy’n gweithio yn y meysydd hyn.  

Rydym wedi comisiynu arolwg byr ar-lein i gasglu safbwyntiau am ein sefydliad a’r sector gwyddorau bywyd yn ehangach. Wedyn bydd eich safbwyntiau gwerthfawr yn cyfrannu at ein cyfeiriad strategol - ac yn ein helpu i wneud Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, lles a gofal.  

Bydd yr arolwg yn fyw am dair wythnos tan 5 Mawrth ac ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylai gymryd tua 10 munud i’w gwblhau, a bydd yr holl ymatebion yn gwbl ddienw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Beaufort Research i drefnu’r arolwg a sicrhau cyfrinachedd.   

Llenwch ein harolwg a’n helpu i siapio dyfodol arloesedd ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â helo@hwbgbcymru.com.