Dyma’ch cyfle i ddweud eich barn wrthym. Llenwch ein harolwg byr i randdeiliaid a helpu i lunio’r gwasanaeth a ddarperir gennym. 

People with speech bubbles graphic

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi lansio ein harolwg i randdeiliaid ar gyfer 2023. Rydym yn annog adborth gan gydweithwyr yn y diwydiant, y byd academaidd, iechyd, gofal cymdeithasol, ac eraill sydd â chysylltiadau â’r sector gwyddorau bywyd.  

Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i ddeall eich anghenion yn well ac i siapio ein gwasanaeth a’n cefnogaeth.  

Mae ein harolwg yn fyw tan 1 Mawrth, ac ni fydd yn cymryd mwy na 10 munud i’w lenwi yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae’r holl ganlyniadau’n gwbl ddienw, a bydd y data’n cael ei gasglu a’i reoli gan Beaufort Research. 

Llenwch yr arolwg yma.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â’n Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, dawn.bratcher@lshubwales.com.