Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydym yn falch iawn o rannu’r newydd bod ein Cadeirydd, Dr Chris Martin, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin. 

Dr Chris Martin at the Life Sciences Hub Wales office

Mae'r anrhydedd nodedig hwn yn cydnabod ei gyfraniadau rhagorol at arweinyddiaeth ac arloesedd ar draws nifer o sectorau, yn enwedig ym meysydd morwrol, gofal iechyd a gwasanaeth cyhoeddus.

Mae gyrfa ddisglair Dr Martin yn rhychwantu amrywiaeth o ddiwydiannau. O adeiladu a gwerthu cadwyni fferylliaeth ar draws De-orllewin Lloegr a Sir Benfro i ymgymryd â rolau arwain ar draws byrddau cynghori a gofal iechyd, mae ei graffter entrepreneuraidd a’i ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus wedi bod yn flaenllaw yn ei waith.

Mae ei effaith yn y sector morwrol yn arbennig o nodedig. Ymgymerodd â rôl Cadeirydd Porthladd Aberdaugleddau yn 2019, ar ôl treulio pedair blynedd a hanner fel Is-gadeirydd. Yn y swydd honno fe arweiniodd Dr Martin y sefydliad drwy gyfnod o drawsnewid sylweddol. O dan ei arweinyddiaeth, cadwodd y Porthladd ei safle fel prif borthladd ynni’r DU, gan sbarduno twf economaidd yn Sir Benfro drwy gefnogi miloedd o swyddi a denu mewnfuddsoddiad i’r rhanbarth.

Y tu hwnt i’r maes morwrol, mae Dr Martin wedi cael dylanwad sylweddol ar ofal iechyd ac arloesedd. Rhwng 2009 a 2014, bu’n Gadeirydd arweiniol ar gyfer yr holl sefydliadau iechyd yng Nghymru, gan ddangos ymrwymiad cadarn i wella gwasanaethau cyhoeddus. Yn 2024, cafodd ei ailbenodi’n Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu ein rôl fel catalydd ar gyfer cydweithio yn y diwydiant, twf economaidd, a sicrhau canlyniadau gofal iechyd gwell ar hyd a lled Cymru.

Mae portffolio helaeth Dr Martin ym maes gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys rolau fel Dirprwy Raglaw, Ymddiriedolwr Marie Curie UK, Llywodraethwr yng Ngholeg Sir Benfro, Cyd-gadeirydd Comisiwn Bevan, ac Is-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae ei ymroddiad i gymunedau Cymru wedi bod yn ddiwyro, ac mae wedi gadael gwaddol parhaol ar ei ôl mewn amryw o sectorau.

Wrth sôn ar yr anrhydedd, dywedodd Dr Chris Martin:

“Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn anrhydedd o’r mwyaf. Rydw i wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr ag unigolion angerddol ym mhob un o’r rolau rydw i wedi ymgymryd â nhw. Rydw i’n ddiolchgar iawn i fy nheulu, fy nghydweithwyr a’r cymunedau rydw i wedi’u gwasanaethu – mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol fy nhaith.”

Fel Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Dr Martin yn parhau i ennyn arloesedd a chydweithrediad, gan hyrwyddo datblygiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol y mae cymunedau ym mhob cwr o Gymru a’r tu hwnt yn elwa ohonynt. Mae ei weledigaeth, ei ymroddiad a’i arweinyddiaeth yn destun balchder aruthrol i bob un ohonom.

Llongyfarchiadau, Chris, ar yr anrhydedd haeddiannol yma. Diolch i ti am dy gyfraniadau rhagorol ac am hyrwyddo llesiant cymunedau Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniad, darllenwch yma.