Mae'r rhaglen yn nodi ei thrydedd flwyddyn o uno clinigwyr, llunwyr polisi ac arloeswyr i greu cymuned arloesi digidol ddeinamig ym maes gofal iechyd yng Nghymru.

digital

Mae EIDC wedi cefnogi rhanddeiliaid sy'n gweithio i ddatblygu a mabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol yng Nghymru. Mae EIDC wedi treulio tair blynedd yn mynd i'r afael â rhwystrau ac yn herio mabwysiadu a chyflwyno, cysylltu prosiectau a phartneriaid, a nodi ffynonellau cymorth.  

Ers 2018, mae EIDC wedi:  

  • Cefnogir ar 29 o brosiectau mawr  
  • Cysylltu 285 o sefydliadau ac unigolion  
  • Cynnal 23 o ddigwyddiadau  

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae EIDC wedi cefnogi ymateb Cymru i'r don gyntaf o Covid-19, lle llwyddodd i reoli 205 o gynigion o gefnogaeth gan ddiwydiant.  

Yn 2020, sefydlodd, lansiwyd a rheolodd EIDC y Gronfa Atebion Digidol hefyd. Cystadleuaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru oedd hon a oedd yn cynnig grantiau ar gyfer treialu atebion digidol yn gyflym mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19.  

Bydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dathlu pen-blwydd EIDC ar  draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol heddiw - i ddarganfod mwy edrychwch ar yr hashnod  #PenblwyddHapusEIDC.

I gael gwybod mwy am lwyddiannau anhygoel y rhaglen dros y tair blynedd diwethaf darllenwch y blog pen-blwydd.