Mae Ortho Clinical Diagnostics (Ortho), arloeswr byd-eang mewn diagnosteg in vitro, wedi cyhoeddi bod y gwaith o gynhyrchu ei brofion gwrthgyrff Covid-19 wedi hen ddechrau yn ei gyfleuster arloesol ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ortho

Ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru alwad genedlaethol yn galw ar gwmnïau yn y diwydiant i gefnogi gwaith Cymru i fynd i'r afael â'r firws, ac fe ymatebodd cwmni Ortho Clinical Diagnostics.

Mae Ortho, sy'n arweinydd byd-eang yn ei faes, wedi datblygu sylfaen weithgynhyrchu ar gyfer profion serolegol yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf. Heddiw, mae'r cwmni'n cyflogi dros 500 o bobl ar ei safle ym Mhencoed ac mae'n cynhyrchu miliynau o brofion bob wythnos ar gyfer ystod eang o gyflyrau cronig a chyflyrau meddygol i'w dosbarthu'n fyd-eang. 

Drwy weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd Ortho yn darparu ei brofion Covid-19, sy'n cael eu cynhyrchu yn y cyfleuster gweithgynhyrchu ym Mhencoed, i gefnogi'r gwaith o brofi am Covid-19 yng Nghymru.

Mae'r profion yn canfod gwrthgyrff y gellir eu defnyddio i nodi ymateb imiwnedd sy'n cadarnhau achos blaenorol a diweddar o haint Covid-19, a gall fod yn hanfodol ar gyfer strategaethau dychwelyd i'r gwaith. Mae Ortho wedi sicrhau ardystiad gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau ac ardystiad CE ar gyfer ei brofion gwrthgyrff, sy'n cynnig penodolrwydd o 100 y cant i helpu i leihau profion cadarnhaol ffug i sicrhau na fydd pobl yn cael eu hadnabod fel rhai sydd ag ymateb imiwnedd i'r firws pan nad yw hynny'n wir.

Meddai Paul Hales, Uwch Gyfarwyddwr Gweithrediadau yng nghwmni Ortho:

"Rydyn ni wedi meithrin arbenigedd gweithgynhyrchu dwfn yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd, sydd wedi ein galluogi i gynhyrchu'r cynhyrchion pwysig yma.  Mae'r tîm wedi bod yn gweithio ddydd a nos i gynhyrchu ein profion Covid-19 ar raddfa fawr. Yn Ortho, rydyn ni'n credu bod pob prawf yn sicrhau bywyd, ac rydyn ni'n falch o weld y pecynnau yma'n cael eu defnyddio yng Nghymru."

Mae’r cwmni yn un o nifer i gynhyrchu’r prawf gwrthgyrff ar gyfer y DU – daeth yn rhan o’r gwaith ar ôl ymateb i gais am weithredu i helpu gyda’r ymateb i’r coronafeirws gan Brif Weinidog Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Heddiw mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi croesawu argaeledd y prawf newydd gan ddweud y bydd Cymru yn penderfynu sut bydd y prawf yn cael ei ehangu, ei flaenoriaethu a’i reoli. Mae disgwyl y bydd ar gael mewn cartrefi gofal.

Mae grŵp arbenigol yn gweithio ar hyn o bryd ar y strategaeth profion gwrthgyrff ar gyfer Cymru a bydd yn gwneud cyhoeddiad yn fuan.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd:

"Mae’r ffaith bod y prawf gwrthgyrff newydd hwn wedi’i gymeradwyo a’i gynhyrchu yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrechion i atal y feirws rhag lledaenu, i ddiogelu'r cyhoedd ac i lacio’r cyfyngiadau symud.

Bydd y prawf hwn yn dangos i ni os yw pobl wedi cael y coronafeirws yn barod. Ond, er bod y prawf yn gallu dangos a yw rhywun wedi cael y feirws, mae’n bwysig dweud na fyddwn yn gwybod yn sicr faint o imiwnedd sydd ganddo i’r feirws.

Hefyd rydym yn edrych ar gyflwyno math arall o brawf gwrthgyrff, sy'n gallu rhoi canlyniad mewn munudau. Ynghyd â'r prawf sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, bydd hwn yn rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu i helpu Cymru i ddod allan o’r cyfyngiadau. Byddaf yn cyhoeddi cyn hir sut bydd y profion gwrthgyrff hyn yn cyd-fynd â'r strategaeth a phryd byddant ar gael i’n gweithwyr hanfodol ac i’r cyhoedd."

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae'r newyddion yma heddiw yn dangos bod Cymru ar flaen y gad yn y sector gwyddorau bywyd rhyngwladol ac o ran y rôl allweddol mae busnesau Cymru yn ei chwarae mewn ymdrechion i frwydro yn erbyn Covid-19 yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. 

"Roedd hanes a llwyddiant y cwmni mewn cynhyrchu profion clefydau heintus yn ein galluogi ni i ddynodi Ortho fel cwmni o Gymru oedd â galluoedd profedig a fyddai'n ei osod ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran cynhyrchu profion gwrthgyrff. Rydyn ni'n falch o hwyluso partneriaeth sydd wedi galluogi'r profion hanfodol yma i gael eu cymhwyso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er lles pobl Cymru a'r tu hwnt."

Gallai'r prawf helpu Llywodraeth Cymru ac epidemiolegwyr i ymchwilio i ledaeniad ac effaith y firws yn ogystal â rhoi gwybod i ddarparwyr gofal iechyd pryd fydd angen triniaeth.

Meddai David Heyburn, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Diogelu Iechyd a Microbioleg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae profi gwrthgyrff yn rhan bwysig o'n strategaeth i atal lledaeniad Covid-19 ac i'n helpu ni i ddeall pwy sydd wedi cael y clefyd. Roedd hi'n bwysig iawn i ni wybod y byddai'r prawf yn cael ei gynhyrchu'n lleol i ni yng Nghymru wrth benderfynu pa gyflenwyr i ddibynnu arnyn nhw."

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd yn Llywodraeth Cymru:

"Mae profi gwrthgyrff yn rhan bwysig o'n strategaeth i atal lledaeniad Covid-19 ac i'n helpu ni i ddeall pwy sydd wedi cael y clefyd. Roedd hi'n bwysig iawn i ni wybod y byddai'r prawf yn cael ei gynhyrchu'n lleol i ni yng Nghymru wrth benderfynu pa gyflenwyr i ddibynnu arnyn nhw."

Meddai Paul Hackworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Ortho:

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i chwarae ein rhan yn strategaeth brofi gyffredinol Cymru. Ni oedd un o'r darparwyr diagnosteg in vitro cyntaf i ateb yr her unigryw yma ac rydyn ni'n falch y bydd ein profion gwrthgyrff Covid-19 yn cynnig ateb hyblyg a dibynadwy i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod eu strategaeth mor effeithiol â phosib."