Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod at ei gilydd, ochr yn ochr ag eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, i fanteisio ar bŵer technoleg ymgolli a gwthio arloesi i’r rheng flaen.

A woman holds a VR headset to her eyes

Mae technoleg ymgolli yn ennill momentwm. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos cynnydd sylweddol ar draws y byd academaidd, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae lansiad Ysbyty Rhithwir cyntaf Cymru ym mis Chwefror 2022 yn golygu bod realiti rhithwir yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phrofiadau dysgu a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd clinigol, ac mewn mannau eraill mae’n cael ei ddefnyddio i dynnu sylw cleifion yn ystod triniaethau poenus.

Bydd y grŵp diddordeb arbennig technoleg ymgolli yn dod â phobl o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd at ei gilydd i wneud y canlynol:

  • Archwilio, profi, a dilysu technolegau newydd.
  • Rhannu syniadau, arbenigedd a phrofiadau.
  • Manteisio i’r eithaf ar gydweithio a lleihau dyblygu gwaith ar draws disgyblaethau.
  • Nodi lle mae angen i dechnolegau ymgolli ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Dywedodd Dr Huw Williams, Cadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig Technoleg Ymgolli ac Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Frys ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Roedd hi’n bleser cael fy ngwahodd i gadeirio’n grŵp newydd cyffrous hwn ar ran Hwb Gwyddorau Bywyd. Bydd y grŵp yn golygu bod AaGIC, gweddill GIG Cymru a Phrifysgolion Cymru yn cydweithio i benderfynu ar y llwybr gorau ymlaen i realiti rhithwir ac estynedig yng nghyd-destun gofal iechyd. Heb os, bydd llawer o fanteision yn cael eu datgloi dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y grŵp diddordeb arbennig hwn yn manteisio ar arbenigedd ar hyd a lled Cymru, er mwyn i bartïon sydd â diddordeb yn y sector gofal iechyd allu arloesi (ac, yn bwysig, gwerthuso) datrysiadau ar gyfer hyfforddiant staff ac ar gyfer ein cleifion. Rwy’n edrych ymlaen at weithio yn y bartneriaeth hon."

 

Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Gwener 28 Gorffennaf rhwng 2 a 3pm lle gallwn ddechrau gweithio gyda'n gilydd i yrru'r arloesedd hwn yn ei flaen a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatgloi potensial cyffrous technoleg ymgolli.

 

Dywedodd Delyth James, Rheolwr Rhaglen EIDC:

"Rwy'n gyffrous y bydd ein Grŵp Diddordeb Arbennig Technoleg Ymgolli yn dod â chlinigwyr ac academyddion at ei gilydd i fanteisio ar botensial y dull arloesol hwn. Drwy gydweithio, gallwn archwilio’r hyn sy’n bosibl gyda thechnolegau ymgolli. Gallwn ddeall ble mae’r cyfleoedd mwyaf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddefnyddio’r technolegau hyn. Ac mae gennym y potensial i lunio dyfodol gofal cleifion, hyfforddiant staff, ymchwil ac addysg."

 

Dywedodd Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r grŵp diddordeb arbennig hwn. Rydyn ni’n gwybod y bydd technoleg ymgolli o fudd i’n dysgwyr. Drwy rannu ein sgiliau, gallwn sicrhau ein bod yn gwella gofal cleifion nawr ac yn y dyfodol yn ogystal â gwella sgiliau’r gweithlu nawr ac yn y dyfodol.”

 

I gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â’r grŵp, llenwch y ffurflen cofrestru diddordeb. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

 


Gwybodaeth am AaGIC:

Mae AaGIC yn eistedd ochr yn ochr â Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Mae ganddo rôl flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gefnogi gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am ei waith ar addysg seiliedig ar efelychu ar wefan AaGIC.

 

Gwybodaeth am EIDC:

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) yn gydweithrediad rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn dod â diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisïau, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr at ei gilydd i greu ecosystem fywiog o arloesedd digidol o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Rhaglen EIDC yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol, gan gynnull a chysylltu pobl ar draws y sector i’w ‘gwneud hi’n haws ac yn gyflymach mabwysiadu technolegau gofal iechyd digidol.’