Mae gwaith anhygoel yn cael ei wneud gan sefydliadau ac unigolion ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n helpu i ddathlu hyn drwy gefnogi’r categori ‘Cefnogi Gofalwyr Di-dâl’ yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru ar 27 Ebrill 2023.
Mae Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod y cymorth amrywiol sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol ac yn tynnu sylw at y gwaith hollbwysig sydd o fudd i gynifer o bobl ar hyd a lled y wlad.
Rydyn ni’n falch o gefnogi’r categori ‘Cefnogi Gofalwyr Di-dâl’, sy’n tynnu sylw at gyfraniadau hanfodol timau a grwpiau o weithwyr sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl. Gall hyn gynnwys sicrhau nad yw gofalwyr di-dâl dan anfantais nac yn cael eu gwahaniaethu oherwydd eu rôl gofalu, trefnu gwyliau byr i ofalwyr, a rhoi mynediad at adnoddau ar gyfer hunan-gymorth a grymuso.
Mae categorïau eraill y gwobrau yn cynnwys:
- Creu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Gofalu am les y gweithlu a’i wella
- Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
- Gwobr Gofalwn Cymru
Byddwn yn y seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, yn barod i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bawb ar draws sefydliadau partner a gofal cymdeithasol.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi’r Gwobrau hyn i gydnabod a dathlu’r effaith y mae gofal cymdeithasol effeithiol yn ei chael ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ac ar sut y gall helpu i wella iechyd a lles Cymru gyfan.”
Yn ôl Aimee Twinberrow, Arweinydd Prosiect Gofal Cymdeithasol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae’n anrhydedd cefnogi Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru, yn enwedig y Wobr Gofalwyr Di-dâl. Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cymorth hanfodol, ac yn rhan annatod o’r system gofal cymdeithasol. Yn aml, gofalwyr di-dâl yw'r arwyr tawel. Mae’n fraint cael cefnogi’r wobr hon a chydnabod y gefnogaeth wych sy’n digwydd yng Nghymru.”
I ddysgu mwy am Wobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2023, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.