Mae Kate Coombs wedi cael ei phenodi yn Bennaeth Cyflawni Rhaglenni ac mae Dr. Philip Barnes wedi cael ei benodi yn Bennaeth Gwybodaeth y Sector. 

Image of Life Sciences Hub Wales' office

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi creu’r ddwy rôl newydd hyn i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei raglen strategol. Bydd hyn yn galluogi’r sefydliad i gryfhau ei sefyllfa o ran datblygu a mabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau arloesol er mwyn gwella iechyd a llesiant. Mae’r naill a’r llall yn dod â chyfoeth o brofiad a sgiliau perthnasol i’r ddwy swydd hyn. 

Fel Pennaeth Cyflawni Rhaglenni mae Kate yn gyfrifol am arwain, cyflawni a mesur effaith rhaglenni a phrosiectau cydweithredol i gyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer gwell iechyd a lles yng Nghymru. Bydd Kate a’i thîm yn cryfhau ein gwasanaethau cymorth a gynigir i bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, ymchwil a diwydiant. Gan ganolbwyntio ar ein prif flaenoriaethau, sy’n cynnwys meddygaeth fanwl, deallusrwydd artiffisial a digidol a therapïau uwch.  

Mae Kate yn ymuno gyda phrofiad helaeth o gyflawni ar draws amrywiaeth o swyddi uwch yn y sector preifat a chyhoeddus, ar ôl gweithio mewn sefydliadau gan gynnwys y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig, GE Healthcare, TrakCel a KBR. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth ddofn iddi o brosesau allweddol ar gyfer cyflawni rhaglenni mewn meysydd fel gofal iechyd a gwyddorau bywyd.  

Dywedodd Kate Coombs, Pennaeth Cyflawni Rhaglenni:  

Kate Coombs“Rwy’n falch iawn o ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn y rôl newydd hon, ar ôl gweld â’m llygaid fy hun effaith darparu rhaglenni arloesi ar ddefnyddwyr gwasanaethau fel cleifion mewn lleoliadau gofal iechyd. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o waith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gyda phartneriaid ymchwil a diwydiant fel rhanddeiliaid i ddiwallu anghenion sy’n esblygu yn y GIG a’i gleifion drwy gydweithio ac arloesi ystyrlon.” 

Bydd rôl Phil fel Pennaeth Gwybodaeth y Sector yn golygu ei fod yn arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth wedi’u targedu, gan gynnwys sganio’r gorwel, dadansoddi’r farchnad, cyllid, cymorth gyda cheisiadau a datblygu achosion busnes. 

Daw Phil â chyfoeth amrywiol o brofiad i’r rôl, gyda’r gallu i adnabod technolegau sydd â photensial eiddo deallusol a masnachol cryf ar gyfer eu marchnadoedd arfaethedig. Enillodd PhD mewn Niwrowyddoniaeth o Brifysgol Caerdydd, ac yna bu’n gweithio mewn dwy swydd ôl-ddoethurol. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio ym maes datblygu masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru yn y tîm sbarduno technoleg.  

Dywedodd Phil Barnes, Pennaeth Gwybodaeth y Sector: 

Phil Barnes“Mae’n wych cael ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ar ôl gweithio’n agos gyda’r sefydliad ers ei sefydlu drwy fy swyddogaethau ym Mhrifysgol Caerdydd a Banc Datblygu Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at arwain tîm gwybodaeth y sector a darparu gwybodaeth allweddol a fydd yn helpu’r sefydliad i wireddu ei weledigaeth o roi Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd, gofal a llesiant. 

Dywedodd Dr Rhodri Griffiths, y Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd:  

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Philip a Kate i’r swyddi newydd hyn yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae gan y ddau brofiad perthnasol helaeth o weithio ar draws nifer o sectorau a byddant yn helpu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i barhau i gefnogi ecosystem arloesi iechyd Cymru a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant economaidd i bobl Cymru.” 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm yn Hwb Gwyddorau Cymru, tarwch olwg ar ein swyddi gwag.