Rydyn ni’n falch o noddi BioCymru yn Llundain 2025.

Caiff y digwyddiad, a gynhelir ar 12 Mawrth, ei gyflwyno gan MediWales – ac mae’n rhoi llwyfan unigryw i gwmnïau a datblygiadau arloesol newydd sy’n chwilio am fuddsoddiad a chydweithrediad.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dod ag ecosystem gwyddorau bywyd Cymru ynghyd â buddsoddwyr, cydweithredwyr a phartneriaid o Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Dr Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau:
"Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ymuno â MediWales yn nigwyddiad BioCymru yn Llundain eleni. Mae gan Gymru ecosystem gwyddorau bywyd fywiog, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i ni ymgysylltu â darpar fuddsoddwyr a chydweithredwyr o Lundain a de-ddwyrain Lloegr – gan ein helpu i gryfhau ac ehangu ein cysylltiadau ar draws y sector."
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfoeth o gyflwyniadau gan gydweithwyr uchel eu parch o bob cwr o ecosystem gwyddorau bywyd Cymru. Bydd Dr Meinir Jones, un o aelodau ein bwrdd, yn cymryd yr awenau fel un o brif siaradwyr y digwyddiad, a bydd Dr James Bourne, un o’n Rheolwyr Cyflawni Partneriaethau, yn cyflwyno fel rhan o Ffrwd Iechyd ac Ymchwil y GIG.
Ydych chi’n dod i’r digwyddiad? Dewch draw i’n stondin i ddweud helo ac fe gawn gyfle i gysylltu! Mae agenda’r digwyddiad ar gael yma.