Penodwyd Dr Rhodri Griffiths yn Gyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae Rhodri yn ymuno â'r sefydliad ar ôl gwasanaethu fel aelod o'i fwrdd am y tair blynedd diwethaf. Mae wedi dal swyddi uwch reolwr yn y sectorau masnachol a gwirfoddol ac wedi gweithio'n helaeth gyda'r sector cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd. Bu'n rheolwr cyffredinol ar Current Biodata ac ar un adeg, yn gyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin.
Mae ganddo BSc a PhD mewn Biocemeg o Brifysgol Cymru ac mae ganddo MBA o Brifysgol Caerdydd. Wedi'i ddyfarnu gyda rhagoriaeth, roedd ei MBA yn arbenigo mewn Rheoli Strategol a Newid Uwch ac enillodd Wobr Syr Julian Hodge hefyd.
Dywedodd Rhodri:
"Fel aelod o'r bwrdd, rwyf wedi cael cipolwg uniongyrchol ar waith y sefydliad a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid i wireddu ei gweledigaeth i wneud Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a lles."
Mae Rhodri yn ymuno â'r sefydliad wrth iddo lansio pum blaenoriaeth busnes, sydd wedi'u llywio gan ymgysylltiad helaeth â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae wedi nodi eu hanghenion, eu cyfleoedd yn y farchnad a llif diddordeb presennol gan ddiwydiant.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Rwy'n falch iawn bod Rhodri wedi ymuno â ni yn y rôl allweddol hon i'r sefydliad. Mae ganddo brofiad helaeth o'r sector gwyddorau bywyd ac mae'n dod â chyfoeth o arbenigedd a fydd yn allweddol i fwrw ymlaen â'n gwaith wrth i ni barhau i gefnogi'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."