Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru’n wynebu heriau sylweddol: ôl-groniad o bobl sydd angen mynediad at wasanaethau, poblogaeth sy’n heneiddio, a chyfyngiadau o ran arian ac adnoddau sy’n effeithio ar y ddarpariaeth. 

Chwarae

Mae’n bwysig trawsnewid y systemau hyn i’w helpu i ddiwallu’r gofynion presennol yn ogystal ag anghenion dinasyddion yn y dyfodol, a fydd yn parhau i esblygu. Mae gan arloesi ran hollbwysig yn y gwaith o gefnogi trawsnewid systemau cymell iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y system. 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hollbwysig hyn drwy gydweithio â phartneriaid ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru. 

Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos sut mae hyn yn cael ei gyflawni: 

  • Helpu i gyflenwi 330 o swyddi yn y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru  
  • Darparu £18,150,000 o Werth Ychwanegol Gros (GVA) 
  • Cefnogi: 319 o fudiadau ledled Cymru; 26 o gynigion arloesedd sy’n barod i gael eu mabwysiadu; a 17 o gynigion cyllido gwerth £20,014,098 

Mae’r adroddiad yn dangos sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi gofal iechyd i fynd i’r afael â gofynion adfer ac ôl-groniadau ar ôl y pandemig ac wedi gweithio gyda’r diwydiant i hwyluso’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technolegau newydd yng Nghymru, fel biopsïau hylifol, monitro o bell a deallusrwydd artiffisial. 

Ymdrinnir ag ystod eang o brosiectau a ffrydiau gwaith, gan gynnwys: 

  • Edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i fwrw ymlaen i ganfod a chael diagnosis o ganser yn gynnar drwy ddod â 120 o arweinwyr ynghyd sy’n gweithio ar flaen y gad yn y maes hwn mewn partneriaeth â Fforwm Diwydiant Canser Cymru. 
  • Cefnogi tîm byd-eang Cytiva drwy eu proses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at fuddsoddi a gwaith datblygu sylweddol yng nghyfleuster gweithgynhyrchu Cardiff Edge. Bydd y safle newydd a ddatblygwyd yn helpu i sicrhau cynnydd o 20% yng nghapasiti gweithgynhyrchu byd-eang Cytiva ar gyfer cynnyrch untro. 
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Rhwydwaith Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan mewn partneriaeth â byrddau iechyd a’r cynllun Canser Moondance. Bydd y rhaglen genedlaethol llawdriniaeth â chymorth roboteg yn darparu llawdriniaeth robotig sy'n creu archoll mor fach â phosib i filoedd o gleifion canser ledled Cymru. 

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi manylion ein strategaeth feiddgar a chyffrous ar gyfer y dyfodol sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo newid mewn systemau ac arloesedd ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol integredig. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:  

“Roedd 2021-2022 yn flwyddyn gref i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan adeiladu ar ein profiad helaeth o roi cefnogi partneriaid sy’n gweithio ar draws gwahanol sectorau i fabwysiadu arloesedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r daith hon lle byddwn yn cymryd camau beiddgar i helpu i drawsnewid ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth nawr ac yn y dyfodol, a gwella iechyd a lles.”

Mae’r adroddiad ar gael i’w lwytho i lawr yn llawn ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru