Mae Innovate UK wedi agor ei gronfa ‘Catalydd Biofeddygol 2022 Rownd 1:  Ymchwil a Datblygu dan arweiniad y Diwydiant’ ar gyfer busnesau micro, bach neu ganolig eu maint sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n awyddus i ddatblygu atebion arloesol i heriau gofal iechyd. Gellir gwneud ceisiadau rhwng 28 Mawrth 2022 a 25 Mai 2022.

Cadw mi gei

Pa fath o brosiectau sy’n berthnasol?

Mae hyd at £15 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyn iddynt gyrraedd y farchnad sy’n gallu dangos dichonoldeb masnachol a thechnegol amlwg. Gall prosiectau ganolbwyntio ar unrhyw sector iechyd neu ofal iechyd neu ddisgyblaeth fel:

  • Atal clefydau a rheoli iechyd a chyflyrau cronig yn rhagweithiol
  • Canfod clefydau a gwneud diagnosis yn gynt ac yn well er mwyn gwella canlyniadau cleifion
  • Triniaethau wedi’u teilwra sy’n newid y clefyd sylfaenol neu’n cynnig atebion posibl
  • Datblygu technolegau iechyd digidol

Gall prosiectau gynnwys gweithgareddau fel:

  • Gwerthuso arbrofol ar raddfa labordy
  • Defnyddio modelau in vitro ac in vivo i werthuso prawf o gysyniad neu ddiogelwch
  • Archwilio dulliau cynhyrchu posibl
  • Datblygu prototeipiau
  • Cynllunio datblygu cynnyrch
  • Diogelu eiddo deallusol
  • Dangos effeithiolrwydd a defnyddioldeb clinigol
  • Dangos diogelwch ac effeithiolrwydd (gan gynnwys treialon clinigol cam 1 a 2)
  • Cynllunio rheoleiddiol

Gall sefydliadau wneud cais ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â busnesau, sefydliadau academaidd, elusennau, mudiadau nid-er-elw, sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu sefydliadau ymchwil a thechnoleg.

Rhaid i gyfanswm costau’r prosiect fod rhwng £150,000 a £4 miliwn, gyda cheisiadau am grantiau am hyd at £2 filiwn. Rhaid i’r prosiectau ddechrau erbyn 1 Rhagfyr 2022 a dod i ben erbyn 30 Tachwedd 2025 gan bara rhwng 6 a 36 mis. Rhaid i’r holl waith gael ei wneud yn y DU, gan fanteisio ar y canlyniadau yn y DU.

Ble alla i ddysgu mwy?

Ewch i dudalennau gwe’r Gwasanaeth Ariannu Arloesi i gael rhagor o wybodaeth a chysylltu â hello@lshubwales.com i gael cymorth gyda’r ceisiadau ar y cyd.