Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ym mis Chwefror a mis Mawrth i gefnogi arloeswyr a chlinigwyr i ddatblygu datrysiadau sy’n cael eu harwain gan heriau ar draws ein GIG a’n systemau gofal iechyd.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio ar y cyd ag M-Sparc i gynllunio, cydlynu a chynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein a fydd yn gweld hyd at £25,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i brosiectau llwyddiannus. Pwrpas y digwyddiad yw dod â’r rheini sy’n gweithio ar draws y system arloesi ym maes gofal iechyd at ei gilydd i ganfod datrysiadau a all sicrhau manteision amlwg i glinigwyr a chleifion.
Sut mae’n gweithio?
Mae’r Hac yn gwahodd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i rannu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith. Mae’r herwyr hyn yna’n cael eu paru ag arloeswyr i gydweithio a datblygu datrysiadau. Yna maen nhw’n rhoi cyflwyniad i banel i geisio sicrhau cyllid ar gyfer eu prosiect.
Mae’r digwyddiad bob amser wedi denu amrywiaeth eang o arweinwyr ac arloeswyr ar draws y maes diwydiant a’r maes iechyd a gofal cymdeithasol i gystadlu am gyllid. Mae enillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i gyflwyno prosiectau’n llwyddiannus i Fyrddau Iechyd ledled Cymru ar ôl sicrhau cyllid gan yr Hac.
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn bresennol yn y digwyddiad. Mae’n darparu llwyfan bwysig i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y maes diwydiant a’r byd academaidd ddod at ei gilydd i gael dealltwriaeth o’r heriau sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru a thu hwnt, gan fwrw iddi i ddatblygu datrysiadau i’r heriau hynny. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pa ddatrysiadau arloesi sydd ar y gweill eleni.”
Dyddiadau allweddol ac amserlenni
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau am heriau – dydd Gwener 11 Chwefror am 5pm.
Digwyddiad Cyflwyniadau – Dydd Gwener 16 Chwefror am 2pm-4pm. Bydd pob her a dderbynnir yn cael 60 eiliad i gyflwyno eu syniad. Yn dilyn hyn, bydd pawb a gyflwynodd yn cael eu rhoi mewn ystafelloedd trafod i rwydweithio a chynnig datrysiadau posibl i gynnig am gyllid ar gyfer eu prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion – dydd Mercher 23 Chwefror am 5pm.
Digwyddiad Diwrnod Cyflwyniadau – Dydd Mawrth 1 Chwefror am 2pm-4pm. Bydd yr holl gynigion am ddatrysiadau yn rhoi cyflwyniad byr i’r panel i benderfynu pa brosiectau sy’n cael cyllid yn y dyfodol.
Sut alla i gymryd rhan?
Os oes gennych chi her yr hoffech chi gael help i’w datrys, neu os hoffech chi ddysgu mwy am y digwyddiad ac edrych ar gynigion her cymeradwy, ewch i Borth Arloesi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.