Mae Hac Iechyd Cymru yn dal i dynnu sylw at y doniau anhygoel sydd gennym yng Nghymru. Cyhoeddwyd pum cyflwyniad buddugol sy’n helpu i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gefnogi Hac Iechyd Cymru yr ail dro iddo gael ei gynnal ar y we. Roedd y digwyddiad ar-lein wedi denu amrywiaeth o weithwyr proffesiynol talentog o bob rhan o’r diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol i gystadlu am y cyfle i ennill cyllid, wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac AgorIP, a chymorth anariannol gan bartneriaid y digwyddiad.
Nod y digwyddiad yw hybu cydweithio ar draws sectorau a thynnu sylw at syniadau arloesol, gan roi llwyfan i arbenigwyr ac adnoddau sydd yn aml yn anodd dod o hyd iddynt o safbwynt her ac ateb.
Roedd yr Hac Iechyd yn cynnwys dau ddigwyddiad ar wahân a gynhaliwyd dros ddwy wythnos ar ôl ei gilydd. Cafodd y digwyddiad ei agor ddydd Mawrth 10 Tachwedd gydag arloeswyr o iechyd a gofal cymdeithasol yn cyflwyno’r heriau roedd arnynt eisiau mynd i'r afael â nhw (37 her gyda’i gilydd), ac yna roedd cyfle i bawb a oedd yn bresennol rwydweithio a thrafod atebion posibl.
Yn y cyfarfod cloi ddydd Mawrth 17 Tachwedd, cafodd pum enillydd eu dewis gan ddau banel o arbenigwyr o’r 22 cynnig a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos.
Dyma oedd y cyflwyniadau llwyddiannus a gafodd eu dewis gan y panel o feirniaid:
- Sam Rice – Darparu cymorth seicolegol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynnal eu cadernid yn ystod y cyfnod anodd hwn
- Keir Lewis – Ap i dracio effeithiau tymor hir Covid-19 ar gleifion
- Carsten Eickmann - Proses awtomataidd i dracio allbwn wrin, gan ysgafnhau'r pwysau ar staff meddygol i gymryd samplau rheolaidd
- Mouli Doddi - Defnyddio technoleg i helpu gydag ôl-groniad o gleifion a achoswyd gan y pandemig Covid-19
- John Wells – Sut mae datblygu llif gwaith digidol er mwyn trin canser ar groen yr wyneb
Bydd yr 17 cyflwyniad arall yn cael cyfle i gael cefnogaeth barhaus gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a phartneriaid perthnasol Hac Iechyd Cymru. M-Sparc, Comisiwn Bevan, Llywodraeth Cymru, Agor IP, Betsi Cadwaladr, MediWales, a SBRI.
Wrth siarad cyn yr Hac, soniodd Simon Burnell, un o’r enillwyr blaenorol, am effaith cymryd rhan yn Hac Iechyd Cymru:
“Roedden ni wedi ennill yr Hac Iechyd yn y gwanwyn ac nawr mae grŵp yn cydweithio i roi ein prosiect, Mask Comms, ar waith a datblygu ein prototeip er mwyn gallu ei gynhyrchu. Byddwn i’n argymell i unrhyw un sydd â phroblem yn eu gwaith yn y GIG i gymryd rhan. Pwy a ŵyr, efallai byddwch chi’n dod o hyd i rywun sydd â’r ateb perffaith a gallwch weithio tuag at ei ddatblygu ar gyfer y GIG i gyd.”
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Roeddwn i mor falch o weld amrywiaeth mor eang o atebion o bob cwr o Gymru yn cael eu cyflwyno yn Hac Iechyd Cymru. Rwyf eisiau llongyfarch y buddugwyr ac annog y rheini a oedd wedi ymuno â’r Hac i ddal ati i arloesi a gweithio i wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i bobl Cymru.”
Cafodd cyflwyniadau i’r rhifyn diweddaraf o’r Hac eu gwneud drwy ddefnyddio porth arloesol a ddatblygwyd gan simplydo. Gallwch edrych ar Borth Hac Iechyd Cymru i gael rhagor o fanylion am yr heriau a drafodwyd.