Fel rhan o’r gyfres ddiweddaraf o ffilmiau i arddangos arloesiadau yng Nghymru a allai chwyldroi gofal iechyd, rydym yn datgelu sut y gallai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol elwa o hyfforddiant realiti rhithwir yn y dyfodol.

Goggleminds product demonstration

Gwelwyd cynnydd aruthrol yn y galw am hyfforddiant rhithwir yn ystod y pandemig wrth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol chwilio am ddewisiadau mwy diogel yn lle hyfforddiant wyneb yn wyneb.

Mae Goggleminds yn arbenigo mewn cyfuno technoleg gemau a thechnoleg ymgolli i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol.

Drwy ddefnyddio eu gwybodaeth am yr heriau a wynebir gan ddarparwyr gofal iechyd, llwyddodd tîm Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sefydlu partneriaethau cydweithredol yn gyflym, gan alluogi datblygwyr Goggleminds i weithio mewn cysylltiad uniongyrchol â chlinigwyr a darparwyr gofal.

Mae’r rhaglen hyfforddi sy’n deillio o hynny yn defnyddio technoleg clustffonau realiti rhithwir (VR) sy’n rhoi cyfle i ymarferwyr gofal iechyd hyfforddi mewn amgylchedd diogel, wedi’i reoli, gan ddefnyddio cynnwys sy’n ailgread cywir o senarios clinigol go iawn.

Azize Naji, Sylfaenydd Goggleminds:

Beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy cael staff gofal iechyd i ymwneud o ddifri â’r broses hyfforddi. Rydw i wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio ym maes gofal iechyd. Rydw i wedi gweld y problemau â’m llygaid fy hun, ac i mi roedd yn ymwneud â darparu atebion i’r hyn roeddwn i’n ei weld fel problem fawr. A’r broblem honno ydy hyfforddiant anatyniadol, anhygyrch ac aneffeithiol. Credwn ei bod yn bwysig iawn bod staff gofal iechyd yn cael yr offer iawn, ac i ni, mae hynny’n ymwneud â darparu hyfforddiant o safon ragorol iddynt. Felly, mae Cyflymu wedi rhoi i ni yr offer, yr adnoddau a’r wybodaeth i ehangu’r hyn rydym yn ei wneud.”

Mae Cyflymu yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig a Mentrau yng Nghymru fanteisio ar arbenigedd academaidd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid er mwyn gwireddu eu syniadau.

 phrofiad personol o weithio ym maes gofal iechyd cyhoeddus, mae tîm Cyflymu yn deall heriau darparu hyfforddiant y GIG. Mae’r ddealltwriaeth hon yn bwysig iawn er mwyn helpu cwmnïau fel Goggleminds i ymgysylltu’n effeithiol â gweithwyr gofal iechyd wrth gynllunio rhaglenni hyfforddiant atyniadol a hygyrch.

Chris Jones, Rheolwr Ymgysylltu â Busnes yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

Mae Cyflymu yn chwarae rôl hanfodol yn y broses o ddatblygu gofal iechyd ledled Cymru. Yn ogystal â throi syniadau newydd yn brosesau a gwasanaethau technoleg newydd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â’r cydweithwyr hynny, er mwyn deall yr heriau a’r pwysau sydd arnynt o ddydd i ddydd. Ac yna rydym yn cysylltu hynny â’n partneriaid mewn diwydiant, ac yn ceisio meddwl am atebion arloesol i’r problemau hynny.”

Hyd yn hyn, mae canlyniadau Goggleminds yn dangos bod cyfraddau cadw unigolion sydd wedi cael hyfforddiant rhithwir yn uwch na’r dulliau hyfforddi traddodiadol. Mae partneriaid y rhaglen yn credu bod hyn yn arwydd o’r pŵer sydd gan drawsnewid digidol i’w gynnig i’r rhai hynny sy’n ceisio cael lefelau newydd o safon mewn hyfforddiant y gellir ei ddarparu mewn amgylcheddau diogel newydd.

Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesi yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

Rydym yn falch o gael gweithio ar brosiect mor ystyrlon â Goggleminds sy’n arwain y ffordd wrth ddefnyddio trawsnewid digidol i effeithio ar heriau a wynebir gan iechyd cydweithwyr.”

Mae’r rhaglen Cyflymu wedi’i hymestyn yn awr tan fis Rhagfyr 2022. Os hoffech ddarganfod mwy ynglŷn â sut y gallai’r rhaglen gefnogi eich syniad da neu eich arloesiad chi, cysylltwch â ni heddiw drwy helo@hwbgbcymru.com