Bydd tair academi newydd a gynlluniwyd i helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yng gwasanaethau iechyd a gofal Cymru yn mynd yn fyw yn ddiweddarach eleni. 

People working on computers

Mae'r Academïau Dysgu Dwys newydd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal - Cymru Iachach. Byddant yn targedu themâu sy'n gysylltiedig â thrawsnewid, a amlygir yn Cymru Iachach, gan gyflwyno mewnwelediadau a phrofiad newydd i ddatblygu'r sgiliau rheoli ac arwain sydd eu hangen arnom.



Bydd pob un o'r academïau yn darparu amrywiaeth o fodiwlau a chyrsiau addysg weithredol, gan ganolbwyntio ar gymhwyso sgiliau yn y byd go iawn, ac adeiladu rhwydwaith o raddedigion a all gydweithio i wneud gwahaniaeth i iechyd a gofal yng Nghymru.



Y tair academi cyntaf yw:

  • Yr 'Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth' dan arweiniad Prifysgol Abertawe
  • 'ALPHAcademy' wedi ei ddatblygu gan Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fydd yn canolbwyntio ar atal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol; A
  • 'Academi Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan' a ddarperir gan bartneriaeth o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Chomisiwn Bevan.

Bydd yr Academïau'n gweithio fel rhwydwaith, gan rannu ymchwil a phrofiad, annog meddwl yn greadigol, a chefnogi cydweithio traws-sector rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant.



Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Nid yw trawsnewid a ffyrdd newydd o weithio erioed wedi bod yn bwysicach yn dilyn pandemig Covid-19. Rydym eisoes wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf sut mae'r ymateb i'r feirws wedi dod â'r gorau o'n GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino i addasu ac arloesi drwyddi draw. Rydym am barhau â'r momentwm hwn, gyda'r academïau newydd yn edrych ar ffyrdd newydd o wella profiadau a chanlyniadau cleifion, tra hefyd yn cynyddu arloesedd a chynaliadwyedd yn ein gwasanaethau iechyd a gofal."

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, yr Athro Hamish Laing:

"Rwy'n falch o arwain Academi Iechyd a Gofal sy’nd Seiliedig ar Werth , sy'n rhan o raglen academiau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, a fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a chwmnïau gwyddor bywyd i ddeall a mabwysiadu dulliau Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth.

Drwy ein Academi, bydd gan sefydliadau gyfle unigryw i gael mynediad i gyfadran o arbenigwyr ac academyddion Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth byd-eang. Mae ein hystod o raglenni addysgol, galluoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori pwrpasol i gyd wedi'u cynllunio i gefnogi sefydliadau i weithredu gofal yn llwyddiannus yn eu systemau unigol a thrwy weithio ar draws sectorau, i feithrin dealltwriaeth a phartneriaeth. Rydym eisoes ar y gweill ac edrychwn ymlaen at groesawu dysgwyr ar ein rhaglen Addysg Weithredol nesaf ym mis Mai."



Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Bydd yr Academïau Dysgu Dwys newydd yn dod â gweithwyr iechyd a diwydiant proffesiynol at ei gilydd, gan ddatblygu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gefnogi arloesedd cynaliadwy a chydweithredol ar gyfer y dyfodol."

Disgwylir i'r cyrsiau ddechrau ym mis Medi 2021, gyda mwy o wybodaeth am geisiadau i'w datgelu yn ystod y misoedd nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am yr Academïau newydd ar gael heddiw