Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Roche Diagnostics, Digipharm a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio prosiect arloesol i ddatblygu dull gweithredu contract enghreifftiol seiliedig ar werth arloesol ar yr un pryd â gwella sut caiff cleifion methiant y galon eu diagnosio yng Nghymru.
Mae’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i greu ffordd newydd o gydweithio er mwyn datblygu model contractio seiliedig ar ganlyniadau sy’n canolbwyntio ar werth prawf diagnostig yn llwybr methiant y galon. Bydd hyn yn creu canlyniadau cynaliadwy sy’n bwysig i gleifion ac yn sbarduno effeithlonrwydd ar gyfer systemau gofal iechyd, gyda’r amcan tymor hir o greu amseroedd aros byrrach, diagnosteg gyflymach, a chanlyniadau iechyd gwell.
Bydd y prosiect yn arwain at dimau caffael, clinigol, gweithredol a gwybodeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth prynu dan arweiniad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar gyfer y prawf diagnostig NTproBNP. Mae hwn yn brawf syml a chyflym a ddatblygwyd gan Roche sy’n cael ei ddefnyddio i ddiagnosio methiant y galon. Mae’n gweithio drwy ganfod lefelau’r proteinau sy’n cael eu cynhyrchu gan y galon pan fydd dan straen.
Er ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd, does dim safoni sy’n golygu nad yw’n cael ei adolygu a’i amrywio. Er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl ohono a gwella rheolaeth a chanlyniadau cleifion, bydd yr holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall sut mae’r prawf diagnostig hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn y llwybr methiant cronig y galon.
Dee Lowry, Pennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i alluogi a gwreiddio dulliau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar draws ein tirwedd gofal iechyd er mwyn gwella’r canlyniad sydd bwysicaf i’n cleifion, i’n staff ac i’r boblogaeth ehangach.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda’n partneriaid prosiect ar gydweithrediad sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a gweledigaeth ar y cyd i ganfod ac i leihau amrywiadau diangen mewn diagnosis o fethiant y galon, er mwyn gwella canlyniadau i gleifion, sydd hefyd yn gallu ein galluogi i gaffael yn effeithiol ac yn effeithlon ar sail canlyniadau.”
Bydd llwyfan contractio digidol sy’n seiliedig ar ganlyniadau Digipharm yn cael ei ddefnyddio i gynnal ac i reoli’r prosiect, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Roche Diagnostics yn defnyddio hyn i ddatblygu strategaeth gaffael gydweithredol sy’n seiliedig ar ddata. Bydd hyn yn cynnwys addasu dulliau llwybrau presennol i wneud diagnosis o gleifion methiant y galon gan ddefnyddio NTproBNP, deall llwybrau cleifion, a datblygu prosesau a fydd yn sail i benderfyniadau caffael.
Dywedodd Ahmed Abdulla, Prif Swyddog Gweithredol Digipharm:
“Mae hwn yn gydweithrediad cyffrous ac arloesol, a dyma’r cyntaf o’i fath yn fyd-eang. Fel arfer, mae cytundebau ad-dalu sy’n seiliedig ar ganlyniadau wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer cyffuriau a dyfeisiau meddygol. Fodd bynnag, prawf diagnostig yw ffocws y prosiect hwn, a fydd nid yn unig yn effeithio ar ganlyniadau clinigol ond hefyd yn darparu arbedion ariannol a gweithredol a fydd yn trawsnewid y ffordd y caiff adnoddau eu dyrannu a’r ffordd caiff gofal ei ddarparu. Oherwydd y cymhlethdodau hyn a nifer o bwyntiau data o ddiddordeb, bydd awtomeiddio drwy ddefnyddio ein system yn dileu’r baich gweinyddol o reoli a phrosesu’r cytundeb hwn.”
Dywedodd Chris Hudson, Cyfarwyddwr Mynediad ac Arloesi ar gyfer Roche Diagnostics yn y DU ac Iwerddon:
“Mae Roche Diagnostics wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i greu arbedion effeithlonrwydd mewn gofal i gleifion. Ffocws penodol i ni yw Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) a Chaffael Seiliedig ar Werth (VBP) ond rydym hefyd yn gwybod nad yw un sefydliad yn mynd i ddatrys y materion cymhleth sy’n ymwneud â VBHC a VBP ar ei ben ei hun. Dyna pam ein bod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cydweithio hwn ac wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y prosiect hwn er mwyn helpu i ddod â manteision VBHC a VBP i’r GIG yng Nghymru.”
Drwy gydol y prosiect, bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn darparu cymorth rheoli a chyfathrebu – gan gynnull a chydlynu partneriaid.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Digipharm a Roche ar brosiect mor arloesol. Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn canolbwyntio ar ganlyniadau cleifion a gwell arbedion effeithlonrwydd ar gyfer ein gwasanaethau gofal iechyd. Bydd defnyddio’r hyn a ddysgir o’r prosiect yn gallu gosod y safon ar gyfer prosesau caffael arloesol sy’n cael eu harwain gan werth.”