Cynllun ar gyfer y Sector Gwyddorau Bywyd yw harneisio cryfderau'r DU ym maes ymchwil, arloesi a gofal iechyd i greu economi wyddoniaeth o'r radd flaenaf erbyn 2035.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth gyffrous hon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth â rhanbarthau datganoledig, gan gynnwys Cymru.
“Mae sector Gwyddorau Bywyd y DU yn un o'n hasedau cenedlaethol mwyaf. Mae'n sector sydd nid yn unig yn achub bywydau - mae hefyd creu swyddi, yn sbarduno buddsoddiad, ac yn pweru arloesedd ar draws ein heconomi. Boed yn sefydliadau ymchwil blaenllaw, neu’n fusnesau newydd dynamig a chwmnïau fferyllol byd-eang, mae gan ein hecosystem Gwyddorau Bywyd botensial mawr. Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â datgloi'r potensial hwnnw."
Dyma ddatganiad agoriadol beiddgar y Gweinidog yng Nghynllun Sector Gwyddorau Bywyd Llywodraeth y DU (rhan o'i strategaeth ddiwydiannol ehangach), sy'n tynnu sylw at gryfder yr ecosystem arloesi gwyddorau bywyd rydyn ni'n falch o weithio ynddi.
Nod y Cynllun, a ddatblygwyd gyda chymorth cannoedd o fusnesau gwyddorau bywyd, darparwyr ac elusennau cleifion, yw datblygu'r cryfderau hyn ymhellach. Mae'n sicrhau bod cydweithio ar draws sectorau yn rhan ganolog o'r gwaith o drawsnewid economi'r DU, drwy uno cryfderau gwyddoniaeth, cyfalaf, diwydiant a'r GIG.
Nod y Cynllun ar gyfer y Sector Gwyddorau Bywyd yw troi ymchwil arloesol yn newid yn y byd go iawn, fel triniaethau newydd, diagnosis cyflymach a mwy o fywydau'n cael eu hachub. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod datblygiadau'n digwydd yma – ac yn aros yma – gan greu swyddi, gwella bywydau ym mhob rhan o'r wlad, a sbarduno twf.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar dair colofn graidd, gydgysylltiedig:
- Galluogi gwaith ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf: manteisio ar gryfderau gwyddonol hanesyddol y DU, ac adeiladu arnynt.
- Gwneud y DU yn lle o ddewis ar gyfer dechrau, tyfu, datblygu a buddsoddi: sicrhau bod syniadau gwych yn cael eu datblygu i fod yn gwmnïau gwerth biliynau o bunnoedd yn y DU, bod ein sector gweithgynhyrchu'n cael ei gefnogi er mwyn sicrhau ffyniant, a’n bod ni’n sbarduno cyfleoedd Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor.
- Sbarduno arloesedd ym maes iechyd a Diwygio'r GIG: sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y technolegau newydd mwyaf clinigol a chost-effeithiol. Rhan bwysig o hyn yw sbarduno newidiadau ar draws sawl maes gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys newid o salwch i atal salwch drwy dechnolegau, fel genomeg a meddygaeth fanwl, newid o’r ysbyty i’r gymuned i alluogi gofal yn nes at y cartref drwy arloesedd digidol a diagnostig, a newid o analog i ddigidol drwy wreiddio data a deallusrwydd artiffisial (AI) i gefnogi staff a gwella canlyniadau iechyd.
Mae'r cynllun yn tynnu sylw at gryfder arloesedd gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan gynnwys y clystyrau sy’n tyfu yn ne Cymru, banc data SAIL a chryfderau Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth. Bydd y Swyddfa Gwyddorau Bywyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun a chryfhau ymhellach yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol:
“Rydyn ni'n falch iawn o weld cynllun newydd y DU yn cael ei lansio ar gyfer y sector Gwyddorau Bywyd. Bydd ei ffocws ar arloesi ym maes iechyd, yn benodol mewn meysydd sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau ein sefydliad ein hunain, fel meddygaeth fanwl, technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial, yn helpu i sbarduno datblygiad economaidd yn y DU ar yr un pryd â helpu pobl i fyw bywydau iachach. Bydd hyn, yn ei dro, yn lleihau'r pwysau ar y GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Mae ein sefydliad yn edrych ymlaen at gefnogi Llywodraeth y DU i sbarduno'r trawsnewid hwn drwy'r llu o gyfleoedd twf uchel sydd ar gael yn ecosystem gwyddorau bywyd Cymru.”
Darllenwch y Cynllun ar gyfer y Sector Gwyddorau Bywyd yn llawn ar wefan Llywodraeth y DU.